6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith — 'Cysylltedd digidol — band eang'

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 16 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 3:45, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Mae’r argymhellion yn adroddiad y pwyllgor a’r ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru i’w croesawu’n fawr. Nid oes ond angen inni edrych yn ôl mor ddiweddar â’r cyfyngiadau symud i weld pa mor bwysig yw cael mynediad digonol at fand eang. Roedd yn un o'r ychydig iawn o ffyrdd a oedd gan lawer ohonom i osgoi teimlo’n ynysig a chadw mewn cysylltiad â ffrindiau ac anwyliaid. Fe wnaeth y pandemig ein gorfodi i ofyn cwestiynau ynglŷn â'r ffordd orau inni ddefnyddio adnoddau i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol dybryd, a chefais fy atgoffa o hyn yn ddiweddar iawn pan ymwelais â champws Pencoed Coleg Penybont. Soniodd sawl myfyriwr yno am eu profiadau yn ystod y cyfyngiadau symud, a sut roedd eu diffyg mynediad at fand eang a chaledwedd addas, fel gliniaduron, wedi golygu eu bod ar ei hôl hi gyda gwaith ysgol, neu eu bod wedi gorfod defnyddio data eu ffonau symudol. Dywedodd un myfyriwr wrthyf ei bod, i bob pwrpas, wedi colli gwerth blwyddyn o addysg am fod ei Wi-Fi mor wael.

Yn oes llythrennedd a chysylltedd digidol, mae cymunedau nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd o dan anfantais gyffredinol, nid yn unig yn gymdeithasol, ond hefyd o ran addysg a chyflogadwyedd. Mae hyn yn arbennig o wir ers y pandemig, gyda mwy o swyddi'n cael eu cynnig ar sail gweithio o bell. Mae gweithio o bell yn rhoi cyfle i bobl weithio gartref, aros yn eu cymunedau, cyfrannu at economïau lleol, ac yn y pen draw, aros yng Nghymru, ond nid yw'n bosibl i bawb. O gofio hyn, mae’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion y pwyllgor yn galonogol. Wedi dweud hynny, mae’n destun pryder o hyd, yn ôl ymchwil gan Lywodraeth Cymru i gynhwysiant digidol, nad yw 7 y cant o oedolion ar-lein. Mae'r un ymchwil yn dangos bod yr anghydraddoldeb hwn yn cael effaith ar anghydraddoldeb ehangach, a bod ganddo'r potensial i'w waethygu. Felly, er enghraifft, y rheini sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yw rhai o ddefnyddwyr mwyaf gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac felly maent mewn perygl o gael eu gadael ar ôl gan wasanaethau digidol diofyn. Mae Ofcom hefyd yn amcangyfrif na all oddeutu 10,000, neu 0.6 y cant o adeiladau yng Nghymru gael gwasanaeth band eang digonol â chyflymder lawrlwytho o 10 Mbps o leiaf, a chyflymder lanlwytho o 1 Mbps. Edrychaf ymlaen at weld unrhyw gynnydd ar sicrhau bod yr 1 y cant olaf hwn o bobl yn cael mynediad at fand eang digonol, fel yr argymhellwyd gan y pwyllgor.

Mae angen inni ymwreiddio’r syniad fod y rhyngrwyd, heddiw, ymhell o fod yn foethusrwydd; mae’n wasanaeth angenrheidiol sy’n galluogi ac yn rhywbeth y mae’n rhaid i bawb allu cael mynediad ato mewn cymdeithas fodern. Mae pobl hŷn, pobl sydd ag anableddau, pobl ddi-waith a phobl ar gyflogau isel, pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig a llawer o grwpiau eraill oll mewn perygl o gael eu gadael ar ôl. Er fy mod yn ymwybodol fod sawl darparwr band eang yn cynnig tariffau cymdeithasol rhatach i aelwydydd cymwys, ychydig iawn o bobl sy'n manteisio ar y cynigion hyn. Fel rydym wedi'i glywed eisoes, hyd at fis Medi 2022, 3.2 y cant y unig o aelwydydd sy’n cael credyd cynhwysol sydd ar dariff cymdeithasol. Ac fel y soniais yn y Siambr yn ddiweddar, credaf ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o ba gymorth sydd ar gael iddynt.

Ond mae’n ddiogel dweud bod Llywodraeth y DU wedi bod yn gwneud cam â ni yma yng Nghymru yn y maes cymhwysedd hwn a gedwir yn ôl, gan wneud inni wario’r miliynau ar seilwaith a meysydd eraill lle dylent fod wedi bod yn buddsoddi i sicrhau bod gan bawb fynediad at fand eang digonol. Mae hwnnw'n arian a wariwyd gan Lywodraeth Cymru lle na ddylai fod rhaid ei wario, ac arian y gallem fod wedi’i fuddsoddi mewn mannau eraill, pe bai Llywodraeth y DU wedi bod yn buddsoddi’n briodol. Dyna arian a allai fod wedi mynd tuag at helpu teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn ystod yr argyfwng costau byw, er enghraifft. Yn syml, nid yw hyn yn ddigon da. Rydym yn haeddu gwell. Mae ein cymunedau, sydd heb gysylltiad ar hyn o bryd, yn haeddu gwell. Dyma un o’r rhesymau pam fy mod yn codi llais dros wasanaethau sylfaenol cyffredinol. Yn sicr, fy ngobaith, yn y blynyddoedd a’r degawdau nesaf, yw y bydd ein gweledigaeth o ba wasanaethau a ddylai fod ar gael i bawb yn parhau i ehangu a dod i gynnwys gwasanaeth fel band eang sylfaenol i bawb.