Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Rwy'n gwrando gyda chryn ddiddordeb ar eich cyfraniad. Mae'r niferoedd rydych yn eu darllen yn dystiolaeth o fethiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflawni'r hyn sy'n fater a gedwir yn ôl. A wnewch chi ymuno â ni i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddweud wrth Lywodraeth y DU ei bod yn bryd iddynt dynnu eu bys allan a chofio bod Cymru'n rhan o’r DU hon, a’n bod yn haeddu’r un gwasanaethau ag y maent yn eu darparu ar yr ochr arall i’r ffin?