Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ei waith ar yr adroddiad, sy'n amlygu'r meysydd lle rydym yn parhau i wneud cynnydd, ac mae angen cynnydd pellach, yn wir. Gallwn i gyd gytuno bod cysylltedd digidol yn wasanaeth hanfodol. Rwyf hefyd yn cytuno y byddwn yn hoffi iddo gael ei drin yn briodol fel cyfleustod cyhoeddus, gyda'r holl ofynion a ddaw yn sgil hynny, gan gynnwys gan y darparwyr gwasanaeth. Ni ellir gwadu ei fod hefyd yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, ond rydym yn parhau i gamu i mewn i gefnogi trigolion a busnesau, i'w helpu i gael y cysylltedd sydd ei angen arnynt gydag adnoddau datganoledig. Bydd yr her honno'n mynd yn anos wrth i'n hadnoddau ariannol wynebu mwy a mwy o heriau. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau adeiladol ar y cyfan, ac rwy'n cydnabod y drafodaeth rhwng Alun Davies a Janet Finch-Saunders, ond mae'n ffaith, nid barn, fod hwn yn fater a gedwir yn ôl ac nid yn fater wedi'i ddatganoli; mae'n ffaith, nid barn, ein bod wedi rhoi adnoddau datganoledig i ychwanegu ar yr arian sydd wedi'i fuddsoddi yng Nghymru i geisio datrys y mater, ac mae'n ffaith nad yw'r holl adnoddau hyd yma wedi'u cynllunio i ddarparu cysylltedd 100 y cant.
Yn ddiweddar, dechreuodd Llywodraeth y DU ar brosiect gwerth £5 biliwn—dyna a ddywedai'r pennawd ar y pryd—Project Gigabit i sicrhau, a'u geiriau hwy yw'r rhain, fod gan bob safle yn y DU fynediad at fand eang a all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit; rwy'n credu mai dyna ydyw, yn hytrach na gigadŵda. Y targed gwreiddiol oedd cyflawni hyn erbyn 2025, ond cafodd hynny ei ddiwygio gan Lywodraeth y DU wedyn i 85 y cant o safleoedd y DU erbyn 2025, a holl safleoedd y DU erbyn 2030. Yn ddryslyd, nid yw 'pob safle' yn golygu pob safle mewn gwirionedd, oherwydd mae Llywodraeth y DU hefyd yn datblygu cynlluniau ar gyfer mynd i'r afael â'r hyn y mae'n ei alw'n 'safleoedd sy'n anodd iawn i'w cyrraedd' ar draws y DU. Ac mae Alun Davies yn gywir: bydd rhai o'r safleoedd hynny mewn cymunedau gwledig, a bydd rhai mewn cymunedau trefol.
Nawr, rwy'n cydnabod yr hyn y mae llawer o'r Aelodau wedi'i ddweud, fod cysylltedd digidol yn hanfodol i bobl gadw mewn cysylltiad a gwneud mwy na goroesi'n unig. Rydym yn gwybod bod y cynnydd mewn costau byw eisoes yn cael effaith enfawr ar unigolion, teuluoedd, cymunedau a busnesau. Rydym yn archwilio'r effeithiau ar gyflawni'r strategaeth ddigidol i Gymru a sut y gall ein polisi digidol a data helpu i gyflawni ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Bydd yr Aelodau'n gyfarwydd â'n hymdrechion i wella cysylltedd band eang. Rydym wedi buddsoddi £56 miliwn o adnoddau datganoledig i helpu i gyflwyno ffeibr llawn a darparu band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit i oddeutu 39,000 o gartrefi a busnesau erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae ein grant Allwedd Band Eang Cymru wedi helpu miloedd i wella eu cyflymder band eang, ac mae ein cronfa band eang lleol wedi cynorthwyo awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i wella cysylltedd cymunedau cyfan.
Yn ein hymateb i'r pwyllgor, gwnaethom yn glir y byddem yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar ei chynlluniau i fynd i'r afael â safleoedd sy'n anodd eu cyrraedd a pharhau i gyflwyno'r achos y dylai Llywodraeth y DU fuddsoddi yn y maes hwn a gedwir yn ôl i gysylltu'r safleoedd anoddaf oll i'w cyrraedd ledled Cymru. Rydym yn rhannu pryderon y pwyllgor am ddiffodd rhwydwaith ffôn y gwasanaeth cyhoeddus. Mae fy swyddogion wedi codi'r pryderon hynny gyda Llywodraeth y DU a'r diwydiant, ac yn arbennig, y ffaith y bydd symud i brotocol llais dros y rhyngrwyd yn gadael cwsmeriaid yn agored i niwed pe bai toriadau trydan. Rwy'n rhoi croeso gofalus i ymrwymiad Llywodraeth y DU i godi gwerth ei thalebau gigabit. Fe wnaethom ddarparu arian ychwanegol i'r cynllun talebau DU hwn yn flaenorol er mwyn adlewyrchu costau a allai fod yn uwch o ddarparu cysylltiadau mewn tirlun fel Cymru, ond wrth gwrs, mae gennym ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i gyflawni ledled y DU. Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn flaenorol, yn awgrymu y dylent edrych ar y terfynau cyllido, ac rydym yn aros i weld nawr os gall Llywodraeth y DU sicrhau cynnydd, ac os gallant, pa mor effeithiol a sylweddol fydd y cynnydd hwnnw. Rydym yn cytuno bod angen diwygio cap costau'r ymrwymiad gwasanaeth cyffredinol. Rydym wedi gweld costau o ddegau o filoedd o bunnoedd yn cael eu dyfynnu i drigolion a busnesau, yn llawer uwch na'r cap o £3,400. Mae hynny'n rhoi'r union safleoedd roedd yr ymrwymiad gwasanaeth cyffredinol i fod i'w gwasanaethu dan anfantais.
Rydym yn datblygu cynigion i ddiwygio rheoliadau adeiladu, fel y soniodd y Cadeirydd wrth agor y ddadl, er mwyn ceisio sicrhau cysondeb ar draws yr holl ddatblygiadau tai newydd, fel y gall trigolion fwynhau band eang a all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit. Rydym yn bwriadu cynnal ymgynghoriad ar y cynigion hyn cyn bo hir. Ac rydym yn cydnabod bod cynhwysiant digidol yn fater cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Mae angen i bobl fod yn hyderus i ddefnyddio'r rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol er mwyn goresgyn anfanteision eraill y gallent eu hwynebu. Rydym yn gwybod bod mynediad digidol yn chwarae rhan bwysig mewn cymdeithas, fel y soniodd nifer o'r Aelodau. Boed er mwyn i bobl ymgysylltu â gwasanaethau iechyd, er mwyn lleihau teimladau o unigrwydd ac unigedd drwy gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theuluoedd neu'n wir, er mwyn parhau i weithio a gallu dysgu. Fodd bynnag, mae yna bobl o hyd sy'n dewis peidio â chymryd rhan yn y byd digidol newydd, neu'r byd digidol safonol rydym i gyd wedi dod i arfer ag ef, a rhai sy'n methu fforddio'r costau sy'n gysylltiedig â bod ar-lein. Mae honno eto'n un o effeithiau eraill yr argyfwng costau byw. Ni allwn fforddio i'n dinasyddion fod dan anfantais gymdeithasol neu ariannol, yn seiliedig ar eu hawl i ddewis a ydynt eisiau ymgysylltu'n ddigidol. Felly, fel y nodwyd yn ein hymateb i'r pwyllgor, byddwn yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar eu gwaith yn arwain ar dariffau cymdeithasol.
Byddwn hefyd yn estyn allan at randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Ofcom, ynglŷn â chofrestru ar gyfer tariffau cymdeithasol—ac rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaed am faes cyfrifoldeb y rheoleiddiwr a chyrhaeddiad, neu fel arall, y dewisiadau y mae wedi'u gwneud hyd yma. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn costau diofyn. Maent yn aml yn llawer uwch na phan fyddwch chi wedi'ch clymu wrth gyfraddau contract. Mae hynny'n arbennig o berthnasol nawr. Os meddyliwch am yr holl bethau rydym yn siarad amdanynt ar bob ochr i'r Siambr hon mewn perthynas â chostau byw, mae gofyn wedyn i bobl sy'n pryderu am eu gallu i aros mewn gwaith a thalu eu biliau, a'r dewis rhwng gwresogi a bwyta, gytuno i gytundeb sy'n para hyd at flwyddyn, 18 mis neu ddwy flynedd, pan nad ydynt yn gallu fforddio hynny efallai, yn her wirioneddol nawr. Ac wrth gwrs, mae hynny wedyn yn golygu eu bod o bosibl yn talu cost lawer uwch o fis i fis. Ac yn union fel y cafwyd rhywfaint o ddiwygio gyda chyfleustodau ynni mewn perthynas â'r hyn sy'n digwydd pan fyddwch yn methu talu, credwn fod hwn yn faes arall lle mae angen diwygio pellach ar frys mawr.
Byddaf yn ystyried y sylwadau y mae Aelodau wedi eu gwneud yn y ddadl yn ofalus. Cafwyd nifer o sylwadau gan Aelodau ar bob ochr, ac yn hytrach na cheisio ymateb i un neu ddau ohonynt nawr, fe geisiaf ystyried y rheini ac yna gweld sut rydym am ymateb. Oherwydd rwy'n credu, ar rai o'r rheini, y bydd angen inni roi ystyriaeth bellach iddynt gyda chyd-Aelodau ar draws y Siambr ac yn y Llywodraeth, a'r potensial ar gyfer camau dilynol. Ond rwy'n gwybod y bydd y pwyllgor yn parhau i fod â diddordeb yn y maes, oherwydd rydym wedi ymrwymo, fel y mae'r pwyllgor wedi ymrwymo, rwy'n credu, fel y disgrifiodd Alun Davies—. Ac mae'n beryglus dyfynnu Alun Davies, ond rwy'n cytuno bod angen system sy'n gweithio i Gymru, gwledig a threfol, a dyna y credaf ein bod ni a'r pwyllgor yn wir wedi ymrwymo i geisio ei gyflawni.