Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Diolch yn fawr. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu? A chan fentro cael fy sugno i mewn i'r ddadl ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am beth, rwy'n credu ei fod yn eithaf clir; mae prif ran gyntaf ein hadroddiad fel pwyllgor, ar dudalen 2, yn dechrau gyda'r geiriau 'Mae telathrebu yn fater a gedwir yn ôl', felly mae'n eglur. Ond nid yw hynny'n golygu nad oes gan Llywodraeth Cymru rywfaint o gyfrifoldeb, oherwydd mae yna feysydd polisi eraill, fel cynllunio er enghraifft, sydd â rôl allweddol i'w chwarae, a denu buddsoddiad preifat drwy fentrau amrywiol hefyd. Mae digon y gallai pawb fod yn ei wneud i geisio hyrwyddo'r agenda rydym i gyd yn ei chefnogi yma, ni waeth pwy y credwn sydd fwyaf ar fai am hyn, llall ac arall.
Ond wrth gwrs, fel pwyllgor, ni allwn wneud argymhellion i Lywodraeth y DU, oherwydd nid ydynt yn atebol i'n pwyllgor ni mewn unrhyw ffordd, felly ein hargymhelliad cyntaf un yw i Lywodraeth Cymru ymgysylltu â Llywodraeth y DU, oherwydd dyna'r unig ffordd y gallwn ei wneud, er mwyn sicrhau eu bod yn datblygu cynlluniau newydd i ddiwallu anghenion penodol Cymru. A rhaid i mi ddweud, y realiti yw—ac nid oes dianc rhag hyn, ni waeth pwy y credwch sydd ar fai—nid yw'r arian sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU yn adlewyrchu'r problemau penodol sydd gennym yng Nghymru, a soniais am y topograffi mynyddig ac yn y blaen; mae cyflwyno band eang yng Nghymru'n ddrutach nag y mae mewn rhannau eraill o'r DU. Nid yw Llywodraeth y DU yn cydnabod hynny yn ei chyllid, a dyna pam fod Llywodraeth Cymru wedi camu i'r adwy a llenwi'r bwlch hwnnw. Ond yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, ni all Llywodraeth Cymru gyfiawnhau parhau i wneud hynny. Felly, ni allwch ei chael y ddwy ffordd. Rhaid i ni ganolbwyntio ar faterion sydd wedi'u datganoli yma yn bennaf. Gallwn, fe allwn ni wneud pethau eraill, ond y gwir amdani yw bod Llywodraeth y DU yn gorfod camu i'r adwy nawr ac adlewyrchu gwir gost cyflwyno band eang yng Nghymru, sy'n rhywbeth nad ydynt wedi'i wneud ers blynyddoedd lawer.
Cyfeiriodd Luke at hwn fel gwasanaeth angenrheidiol sy'n galluogi, a chyfeiriodd at bobl hŷn, pobl ag anableddau, pobl iau, a phobl ddi-waith sy'n chwilio am waith. Ac fe wnaeth hynny fy atgoffa, mewn gwirionedd, fod yna elfen arall yn ein hadroddiad am ddatgysylltiad posibl rhwng polisïau'r Llywodraeth yma, oherwydd un o'r polisïau yw sicrhau bod 30 y cant o'r gweithlu yn gweithio gartref yn y dyfodol, yn seiliedig ar ystyriaethau hinsawdd ac yn y blaen. Wel, ni fydd llawer o'r bobl hyn yn gallu gweithio gartref oherwydd methiant polisi yn y maes penodol hwn. O ran y polisi digidol yn gyntaf, os ydych yn gwneud cais am daliad sylfaenol, yna fel ffermwr rhaid ichi yn y lle cyntaf ddefnyddio'r dull digidol o wneud cais am hwnnw, ond wrth gwrs, hwy yw'r union bobl sy'n lleiaf tebygol fel proffesiwn o allu gwneud hynny, mae'n debyg. Felly, rwy'n credu bod angen inni gydgysylltu ffyrdd o feddwl mewn perthynas â hyn hefyd.
Carolyn, rwy'n falch eich bod wedi sôn am fenter prosesu signalau digidol Prifysgol Bangor. Rwy'n ymweld â hwy bore fory, felly ni allaf aros i ddysgu am rai o'r atebion arloesol y maent yn eu cyflwyno yno, yn enwedig i rai o'r cymunedau gwledig.
Soniodd Mabon ap Gwynfor am y system dalebau, a soniodd y Gweinidog am symiau ychwanegol Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, yr hyn sy'n anffodus yw bod gennyf etholwyr bellach a oedd yn ymbaratoi ac yn aros i dalebau ddod drwodd, yn ddibynnol ar gyllid Llywodraeth Cymru yn rhan o hynny, sydd bellach heb y cyllid hwnnw, sy'n golygu bod yr holl gynnig yn chwalu. Mae'n anffodus y dylai rhai o'r bobl a oedd ar bwynt penodol fod wedi dal i allu cael peth o'r arian, ac efallai y gallai'r Gweinidog ystyried a oes rhyw gymorth penodol ar gael i'r rheini. Er, mae rhai o'r rheini a oedd yn rhan o'r mentrau hynny bellach wedi gadael a dilyn eu trywydd eu hunain, ac efallai nad yw'r holl beth mor hyfyw ag y byddai wedi bod, ac mae hynny'n anffodus iawn. Ac wrth gwrs, Llywodraeth Cymru sy'n cael y bai am ddod â'r cyfan i ben, ond wrth gwrs, rydym wedi siarad am bwy ddylai fod wedi bod yn ariannu hynny yn y lle cyntaf.
Diolch, Alun, am ein hatgoffa am gylch gwaith Ofcom. Rwy'n credu eich bod yn gywir; roedd yna gamgymeriad strategol yno o ran canolbwyntio ar ddefnyddwyr, er, wrth gwrs, dyna natur y bwystfil. Ond rydym yn edrych yma am fynediad i bawb at fand eang ac anghenion ehangach dinasyddion yn hytrach na ffocws penodol ar ddefnyddwyr.
Weinidog, rwy'n ddiolchgar eich bod wedi derbyn ein holl argymhellion. Mae gennym gonsensws, yn hynny o beth o leiaf, ond wrth gwrs, rydym yn dal i aros i weld a fydd camau gweithredu a newid yn dilyn, pwy bynnag sy'n gyfrifol am gyflawni hynny, ond yn sicr, byddwn ni fel pwyllgor yn ailedrych ar y maes hwn yn rheolaidd dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf i sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn mewn perthynas â chysylltedd, ac nad oes unrhyw fusnes nac aelwyd yn cael eu gadael ar ôl. Diolch.