QNR – Senedd Cymru ar 16 Tachwedd 2022.
Erbyn hyn, mae gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol ar gael yn ardal pob bwrdd iechyd yng Nghymru, gyda chefnogaeth dros dair miliwn o bunnoedd o gyllid bob blwyddyn i wella gwasanaethau iechyd meddwl. Un o amodau'r cyllid yma yw bod gofyn i fyrddau iechyd weithio tuag at gyrraedd safonau ansawdd perthnasol Coleg Brenhinol y Seiciatryddion.