Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 22 Tachwedd 2022.
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'n llawn ymgyrch Open Doors Cŵn Tywys Cymru, pryd rydym yn annog pob manwerthwr i gydymffurfio'n llawn â'r gyfraith. Mae'n erchyll eich clywed yn dweud y gwrthodwyd mynediad i 81 y cant o berchnogion cŵn tywys a oedd yn rhan o'r adolygiad—mae'r ddau ohonom newydd ddefnyddio'r gair 'anghyfreithlon'.
O ran strydoedd mwy diogel, byddaf yn sicr yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch y monitro a wneir gan Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â hyn a'r ffordd yr asesir cynlluniau mewn cysylltiad â theithio llesol, ac a yw'n credu ei fod yn ddigon cadarn.