Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 22 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:08, 22 Tachwedd 2022

Diolch am hynna. Mae cymunedau dros Gymru yn barod yn dioddef. Wedi 12 mlynedd o lymdra, dydy gwasanaethau hanfodol ddim mewn sefyllfa i wynebau toriadau pellach. Dwi'n meddwl bod gonestrwydd yn hanfodol mewn gwleidyddiaeth, felly mae angen nodi'n glir mai bai'r Llywodraeth yn San Steffan yw difrifoldeb y sefyllfa hon, ac mae'r ffaith eu bod nhw'n gwadu hyn a'u bod nhw'n beio'r sefyllfa fyd-eang yn destun siom. Yng Nghymru, yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru, mae cyllideb eich Llywodraeth yn wynebu bwlch ariannol sylweddol yn sgil chwyddiant, mae gostyngiad o 7 y cant yn incwm gwario aelwydydd, a hefyd biliau ynni sy'n cynyddu eto, a threthi uwch. Allwch chi ddweud wrthym ni, plis, sut byddwch chi'n cydbwyso'r angen i gynnal gwasanaethau gyda'r angen i gefnogi pobl sy'n wynebu caledi difrifol? Gydag arian mor dynn, a fyddwch chi'n blaenoriaethu'r bobl fwyaf bregus wrth lunio'r gyllideb, i geisio atal cymaint o ddioddef a chymaint o farwolaethau ag sy'n bosibl?