Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 22 Tachwedd 2022.
Roeddwn i wir eisiau ymateb i rywbeth a ddywedoch chi wrth ymateb i Delyth, sy'n ymwneud â gwarchod y rhai mwyaf agored i niwed, ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud hynny yn sgil yr hyn sydd yn y bôn yn benderfyniad cyllideb anodd iawn gan Lywodraeth Cymru. Roeddwn i eisiau codi'r mater o wasanaethau amddiffyn plant a chymaint y maen nhw o dan bwysau. Felly, tybed a wnewch chi wneud sylw ynghylch y sefyllfa o ran amddiffyn plant, gweithwyr cymdeithasol a'r gwasanaethau hynny, y mae angen eu hariannu'n dda er mwyn sicrhau bod plant yn ddiogel ac yn cael eu gwarchod. A wnewch chi wneud sylw ar hynny, yn enwedig yng ngoleuni'r hyn sydd, yn ei hanfod, yn doriadau a osodwyd arnom gan San Steffan? Diolch yn fawr iawn.