Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 22 Tachwedd 2022.
Diolch. Fel y soniais mewn atebion cynharach, bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol—yn amlwg, Llywodraeth Cymru gyfan—yn edrych yn ofalus iawn ar fanylion y cyllid a ddyrannwyd i ni yr wythnos diwethaf, wrth i ni baratoi i gyflwyno'r gyllideb ddrafft.
O ran y gronfa cymorth dewisol, rwy'n cytuno â chi—mae'n gronfa ardderchog. Mewn gwirionedd mae'r swyddfeydd wedi'u lleoli yn fy etholaeth fy hun yn Wrecsam ac rwyf wedi gwrando ar alwadau ar sawl achlysur, a gallwch weld pa mor anobeithiol yw pobl. Ond dywedaf fod y Canghellor wedi colli rhai cyfleoedd da iawn yr wythnos diwethaf i helpu pobl o aelwydydd incwm isel. Gallai fod wedi diddymu'r cap budd-dal yn llwyr, ynghyd â'r terfyn dau blentyn, er enghraifft. Mae yna rai polisïau Adran Gwaith a Phensiynau llym iawn y gellid bod wedi eu rhoi o dan y chwyddwydr mewn gwirionedd.