Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 22 Tachwedd 2022.
Diolch. Wel, rwy'n ymwybodol y daeth nifer o gamau o'r uwchgynhadledd canser y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei ystyried ar hyn o bryd, ond rwy'n siŵr, pan fydd y darn hwnnw o waith wedi'i wneud, y bydd y Gweinidog yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig.