2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 22 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:38, 22 Tachwedd 2022

Gawn ni gyhoeddiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr Economi ynghylch pa gymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau sy'n canfod eu hunain mewn trafferthion ariannol? Mae yna gyflogwyr cymharol fawr bellach mewn cyswllt efo nifer ohonom ni yn sôn am eu pryderon eu bod nhw am orfod rhoi eu gweithlu ar y clwt yn y dyddiau a'r wythnosau nesaf yma. Hyd yma, does yna ddim cymorth ariannol go iawn wedi cael ei gynnig gan y Llywodraeth yma. Mae'n ymddangos fel nad oes yna ddealltwriaeth gan y Llywodraeth o ddifrifoldeb y sefyllfa i nifer ohonyn nhw. Nid cyngor hir dymor sydd ei angen ar y busnesau yma, ond pres—pres i'w helpu efo'u cash flow nhw yn y tymor byr, a dydyn nhw ddim yn gwybod at bwy y mae troi. Felly, byddai cyhoeddiad o ba gymorth sydd ar gael a lle y dylai'r bobl yma droi yn ddefnyddiol iawn i fusnesau Cymru ar hyn o bryd. Diolch.