4. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 22 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 3:00, 22 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rhoddwyd ein hadroddiad ni ar femorandwm Llywodraeth Cymru o ran y Bil Protocol Gogledd Iwerddon hwn ar 9 Tachwedd, ac rwy'n diolch i'r tîm clercio a'r Aelodau hefyd am eu hystyriaeth a'u diwydrwydd nhw.

Roedd ein hadroddiad ni'n mynegi ein pryder ni gyda'r Bil hwn, am lawer o resymau. Yn gyntaf, wrth gyflwyno'r Bil, dywedodd Llywodraeth y DU ei bod hi'n rhagweld na fydd ei rhwymedigaethau rhyngwladol yn cael eu cyflawni. Rydym ni'n pryderu felly am y posibilrwydd y bydd y Bil yn torri cyfraith ryngwladol, fel y dywedodd y Gweinidog, yn wir. Mae Llywodraeth y DU yn dibynnu ar egwyddor o reidrwydd yn cyfiawnhau ei dull hi o weithredu. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod hi o'r farn mai ffordd 'ddadleuol iawn' o osgoi rhwymedigaethau rhyngwladol yw honno, fel nododd y Gweinidog yn y memorandwm. Mae llawer o sylwebwyr cyfreithiol yn nodi hefyd mai amddiffyniad llipa iawn yw galw ar athrawiaeth rheidrwydd yn yr amgylchiadau hyn ac mae'n annhebygol o lwyddo.

Yn y pwyllgor arweiniol ar gyfer cytundebau rhyngwladol, rydym ni o'r farn fod cadw atyn nhw'n fater hollbwysig. Rydym ni'n cytuno â'r Cwnsler Cyffredinol hefyd o ran bod y posibilrwydd o dorri cyfraith ryngwladol gan y Bil yn creu problem gyfansoddiadol i'r Senedd hon, oherwydd fe ofynnir i ni gydsynio i rywbeth sy'n cyfiawnhau torcyfraith i bob pwrpas.

Fel gŵyr y Senedd, nid yw fy mhwyllgor i fel arfer yn gwneud argymhelliad i weld a ddylai'r Senedd roi ei chydsyniad hi i ddarpariaethau o fewn Biliau'r DU. Fodd bynnag, oherwydd goblygiadau cyfansoddiadol mawr y Bil hwn, roeddem ni o'r farn ei bod hi'n iawn i wneud hynny yn yr achos hwn. Roedd pob un o'n haelodau heblaw am un yn credu y dylai'r Senedd ddal ei chydsyniad i'r Bil yn ôl. Rydym yn dod i'r casgliad hwnnw oherwydd gallai penderfyniad gan y Senedd i gydsynio i'r Bil hwn gyfrannu at dorri cyfraith ryngwladol, a byddai'n golygu bod y Senedd yn gweithredu'n anghymarus â'i rhwymedigaethau rhyngwladol. Byddai hynny, yn ddiamau, yn erbyn ysbryd y setliad datganoli.

Rydym ni'n rhannu pryderon y Gweinidog hefyd y byddai argymell cydsynio i'r Bil hwn yn herio ymlyniad Gweinidogion Cymru at y cod gweinidogol, sy'n cynnwys dyletswydd benodol ar Weinidogion i gydymffurfio â chyfraith ryngwladol a gyda rhwymedigaethau cytundebau. Os oes disgwyl i Weinidogion Cymru arfer y pwerau i wneud rheoliadau yn ôl y Bil, fe allai gwneud hynny fod yn gyfystyr â thorri'r cod hwnnw dro ar ôl tro.

Gan droi at y pwerau hynny i lunio rheoliadau yn benodol, nodwyd bod Pwyllgor Pwerau a Diwygio Rheoleiddio Tŷ'r Arglwyddi yn galw'r holl bwerau yn y Bil, mewn dyfyniadau yn, 'bwerau uwch Harri VIII'—sy'n sylw trawiadol iawn. Rhoi'r enw hwnnw wnaethon nhw am fod y pwerau o fewn y Bil yn caniatáu i Weinidogion wneud unrhyw ddarpariaeth y gellid ei gwneud gan Ddeddf Seneddol, gan gynnwys addasu'r Bil drwy reoliadau wedi iddo ddod yn ddeddf. Felly, rydym ni'n cytuno â nhw; mae'r pwerau dirprwyedig hynod eang yn y Bil hwn yn peri pryder. Fe fydden nhw'n caniatáu i Weinidogion y DU wneud unrhyw newidiadau yr hoffen nhw eu gwneud i'r Bil yn y dyfodol i bob pwrpas—gan gynnwys yn ôl-weithredol—heb unrhyw gyfranogiad na rhan i Weinidogion Cymru nac yn wir i'r Senedd hon.

Mae ein pryderon ni o ran y pwerau dirprwyedig eang yn y Bil yn aros yr un fath ni waeth a yw'r pwerau hynny'n cael eu harfer gan Weinidogion y DU neu'n dilyn hynny yn y dyfodol gan Weinidogion Cymru. O bryder pellach i ni yw'r ffaith nad yw hi eto'n hysbys pa bwerau dirprwyedig newydd i Weinidogion Cymru y gellir eu creu o ganlyniad i'r Bil, neu pa weithdrefnau y gellir eu cymhwyso i'r pwerau hynny, a Gweinidogion y DU a fydd yn gwneud yr holl benderfyniadau hynny.

Nid yw'n hi eglur i ni ychwaith, a dweud y gwir, pam mae angen hyn i gyd, gan nad yw mecanweithiau'r cytundeb ymadael ei hun wedi cael eu harchwilio yn llawn eto, ac mae hynny'n cynnwys erthygl 16 o brotocol Gogledd Iwerddon, sy'n caniatáu i'r DU a'r UE gymryd mesurau diogelu dros dro os yw'r protocol yn arwain at anawsterau penodol neu ar gyfer dargyfeirio masnach. Rydym yn pryderu, fel cafodd ei fynegi gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, fod dull Llywodraeth y DU yn debygol o gael effaith ddinistriol ar gysylltiadau rhwng y DU â'r UE.

Gan droi at gymalau penodol yn y memorandwm, rydym ni'n cytuno â'r Gweinidog fod y cymalau a restrir yn y memorandwm yn dod o fewn pwrpas o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Eto i gyd, rydym ni o'r farn hefyd fod cymalau 6, 7, 11, 18 a 24 o'r Bil yn perthyn i'r categori hwnnw. Mae'r memorandwm yn dweud bod cymalau 2 i 4 a 13 i 15 o'r Bil yn addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Rydym ni'n cytuno â'r asesiad hwnnw, ond credwn hefyd fod cymalau 8 a 20 yn addasu cymhwysedd deddfwriaethol, yn ogystal â hynny. Nid ydym ni o'r farn fod cymal 12 yn gofyn caniatâd y Senedd, ac rwy'n gwybod mai barn yw honno nad yw'n cael ei rhannu gan y Gweinidog, felly fe fyddem ni'n croesawu unrhyw arsylwadau ynglŷn â hynny, Gweinidog.

Cyn i mi gloi fy sylwadau, fe hoffwn i unwaith eto fynegi siom y pwyllgor gydag ymgysylltiad prin Llywodraeth y DU â Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno deddfwriaeth sy'n effeithio ar feysydd a ddatganolwyd. Rydym ni'n cydnabod mai dyma un o'r rhesymau pam rhoddwyd y memorandwm gerbron 15 wythnos wedi cyflwyno'r Bil. Serch hynny, rydym ni'n credu er hynny y gallai Llywodraeth Cymru ei hun fod wedi gweithredu yn gynt i ganiatáu amser digonol i graffu gan bwyllgorau'r Senedd, yn enwedig o ystyried goblygiadau rhyngwladol a chyfansoddiadol y Bil, a gododd fy nghyd-gadeirydd. Diolch yn fawr iawn.