Part of the debate – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 22 Tachwedd 2022.
Roedd Brexit bob amser am fynnu ffin yn rhywle rhwng marchnad sengl yr UE a marchnad fewnol y DU, ond eto mae Llywodraethau olynol y DU a oedd yn cefnogi Brexit wedi gwrthod cydnabod y pwynt hwn a hynny mewn ffordd naïf ac ystyfnig. Rwy'n derbyn, wrth gwrs, y gall unrhyw gytundeb fod yn destun adolygiad technegol ac, yn wir, mae'r DU a'r UE wedi dechrau trafodaethau ffurfiol ac anffurfiol ynglŷn â newidiadau technegol i'r protocol, ac mae'n rhaid i'r rhain barhau. Yn anffodus, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu bod angen iddi fod â phwerau trwy gyfrwng y Bil hwn i wneud newidiadau i'r ffordd y mae'r protocol yn gweithredu mewn cyfraith ddomestig. Mae hi'n ymddangos ei bod o'r farn fod bodolaeth pwerau o'r fath yn ei rhoi mewn sefyllfa fwy manteisiol wrth drafod newidiadau i'r protocol gyda'r Comisiwn Ewropeaidd, ac eto fe ysgrifennodd 52 o'r 90 o aelodau sydd yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon a etholwyd ym mis Mai, o dair plaid, ym mis Mehefin at Brif Weinidog Johnson yn gwrthwynebu'r Bil hwn.
Mae dull Llywodraeth y DU yn dactegol naïf ac yn wleidyddol hurt. Mae i ymagwedd Llywodraeth y DU ganlyniadau trychinebus iawn i Gymru a'r cytundeb masnach a chydweithio, sy'n rhagweld y dylai'r DU gysylltu â rhaglen ymchwil Horizon. Mae ei rhaglenni rhagflaenol wedi bod o fudd mawr i economïau Cymru a'r DU ac Ewrop yn fwy eang dros gyfnod o ddegawdau. Mae llawer o raglenni ymchwil ym mhrifysgolion Cymru wedi cael eu hariannu drwyddi, ond eto mae ein cyfranogiad parhaus ni yn y cylch o raglenni a chyllid sydd eisoes wedi dechrau yn cael ei beryglu erbyn hyn oherwydd y Bil hwn. Nid yw'r Comisiwn wedi bod yn fodlon parhau gyda chyfranogiad y DU yn y rhaglen, yn fwyaf tebygol oherwydd y drwgdeimlad a achoswyd gan y Bil. Rydym ni, ynghyd â phrifysgolion a busnesau ledled y DU, wedi pwyso arnyn nhw i ailystyried eu dull o weithredu, ond y gwir achos yn y pen draw yw'r Bil hwn.
Nawr, rwyf i am ymdrin â'r dadleuon penodol dros beidio ag argymell caniatâd. Yn gyntaf, mae hi'n ddigon posibl y bydd y Bil, yn ôl bob tebyg, yn torri cyfraith ryngwladol. Mae ysgolheigion cyfreithiol nodedig wedi dweud bod amddiffyniad cyfraith ryngwladol Llywodraeth y DU oherwydd rheidrwydd i dorri rhwymedigaethau rhyngwladol nid yn unig yn llipa, ond yn ddiobaith hyd yn oed, fel y'i disgrifiwyd gan gyn-bennaeth adran gyfreithiol Llywodraeth y DU. Nid ydym ni'n fodlon cymeradwyo caniatâd i Fil sydd â phosibiliad o dorri cyfraith ryngwladol ar sail na ellir ei chyfiawnhau. Yn unol â'r memorandwm, mae i hynny oblygiadau difrifol i rwymedigaethau Gweinidogion Cymru i gydymffurfio â'r gyfraith, gan gynnwys cyfraith ryngwladol a rhwymedigaethau cytundebau yn unol â'r cod gweinidogol. Rwy'n nodi bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn rhannu'r pryderon hyn ynghylch safbwynt Llywodraeth y DU. Yn ein barn ni, fe fyddai hi'n amhriodol yn foesol ac yn gyfansoddiadol i'r Llywodraeth hon argymell cydsyniad i ddeddfwriaeth sydd ynddi ei hunan yn anghyfreithlon, o bosibl.
Yn ail, mae llawer o'r pwerau i lunio rheoliadau a ddrafftiwyd yn y Bil mor eang fel nad oes ganddyn nhw unrhyw eglurder gwirioneddol o ran eu dibenion, ac mae i hyn oblygiadau sylweddol i Gymru o bosibl ac i'n setliad datganoli ni, yn yr ystyr na allwn ni ddeall natur na chylch posibl y pwerau y gellid eu rhoi i Weinidogion Cymru yn llawn ac ni allwn ni asesu yn iawn ychwaith i ba raddau y gellid defnyddio Gweinidogion y Goron i dresmasu ar faterion datganoledig. Mae hi'n amlwg nad yw hyn yn dryloyw, yn bendant nid yw hon yn gyfraith dda, ac yn sicr mae hi'n bygwth egwyddorion cyfansoddiadol sylfaenol a'n setliad datganoli ni. Rwy'n nodi bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn rhannu pryderon hefyd ynghylch y pwerau dirprwyedig hynod eang sydd yn y Bil hwn.
Yn drydydd, fe ddylwn i ailadrodd na roddwyd unrhyw swyddogaeth i Lywodraeth Cymru, unwaith eto. Ni chawsom ni unrhyw ran yn nrafftio'r Bil hwn ac, yn union fel gyda Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a'r Bil Cyfraith yr UE (Dirymu a Diwygio) echrydus, rydym ni'n anghytuno ag ymagwedd dactegol Llywodraeth y DU. Fe ddylai hi barhau i drafod yn adeiladol gyda'r Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn â'r materion technegol hyn yn barhaus. Nid wyf i'n dymuno i Lywodraeth Cymru a'r Senedd fod yn rhan o unrhyw ddifenwad pellach i'r DU yn rhyngwladol. Rwy'n falch fod pob un o'r tri adroddiad gan bwyllgor y Senedd ar y memorandwm, er gwaethaf yr amser cymharol gyfyngedig i'w ystyried, yn mynd i'r afael â phryderon am y niwed posibl i'r cysylltiadau rhwng y DU a'r UE ac yn pwysleisio'r angen am setliad drwy drafodaeth. Rwy'n ddiolchgar am eu diwydrwydd a'u cefnogaeth ac am y gwaith pwysig a wnaethpwyd o ran craffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a'r Bil. Diolch, Dirprwy Lywydd.