4. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 22 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:11, 22 Tachwedd 2022

Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Dyna un safbwynt sydd yn hollol groes i'r hyn rydyn ni yn teimlo fel plaid, ac mi fyddwn ni hefyd yn gwrthwynebu heddiw.

Weinidog, fel y gwyddoch eisoes, mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu’r defnydd o gynigion cydsyniad deddfwriaethol fel mater o egwyddor. Credwn y dylai penderfyniadau ar faterion datganoledig o hyd gael eu trafod, eu craffu a’u cymeradwyo gan Senedd Cymru, yn hytrach na chael eu gwneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ein rhan. Mae arfer o’r fath yn tanseilio seiliau datganoli. Mae natur y cynnig cydsyniad deddfwriaethol penodol hwn yn pwysleisio dilysrwydd safiad Plaid Cymru yn glir, gan ei fod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod yn rhan o fesurau i ddatgymhwyso’n unochrog elfennau o brotocol Gogledd Iwerddon, yn groes i gyfraith ryngwladol. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cytuno i’r rhwymedigaethau hyn lai na thair blynedd yn ôl fel rhan o gytundeb 'oven-ready' Boris Johnson ar ôl Brexit—ymadroddiad sy’n ymddangos yn fwy anffodus bob dydd o ystyried y smonach mae'r Blaid Dorïaidd hon yn ei wneud o lywodraethu'r Deyrnas Unedig.

Weinidog, mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu rhoi caniatâd i’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn am dri rheswm penodol. Yn gyntaf, fel yr wyf wedi crybwyll eisoes, mae’r Bil dan sylw yn ymgais gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ymwrthod â’i hymrwymiadau o dan gyfraith ryngwladol. Er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ceisio cyfiawnhau’r dull hwn o weithredu ar sail yr athrawiaeth cyfraith ryngwladol o angenrheidrwydd, mae nifer o ysgolheigion cyfreithiol wedi anghytuno’n gryf â rhesymau o’r fath. Mae hyn yn dangos unwaith eto fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig heb ddeall yn llawn telerau’r cytundeb a lofnodwyd i ffanffer mawr yn ôl ym mis Rhagfyr 2019, neu nad oedd ganddynt erioed unrhyw fwriad i’w anrhydeddu yn y lle cyntaf.

Weinidog, rwy’n siŵr y cytunwch fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi chwalu unrhyw hygrededd oedd ganddi gyda’r gymuned ryngwladol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond yma yng Nghymru, lle mae ein gwleidyddiaeth yn dipyn mwy aeddfed a chyfrifol, nid oes angen i enw da ein Senedd gael ei effeithio gan fyrbwylltra San Steffan, a dim ond un enghraifft o hynny yw’r Bil hwn.

Yn ail, ymhell o ddiogelu cytundeb Gwener y Groglith fel y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’i honni’n sinigaidd, mae’r mesur hwn wedi gwaethygu tensiynau ar ynys Iwerddon a grëwyd gyntaf wrth i’r Torïaid ddilyn y trywydd o Brexit caled. Mae’r syniad bod y mesur hwn rywsut yn cynnal yr egwyddor o gefnogaeth draws-gymunedol yn cael ei danseilio gan y ffaith y gwnaeth pleidiau sydd o blaid gweithredu’r protocol ennill mwyafrif ysgubol o seddi yn etholiad diwethaf Cynulliad Gogledd Iwerddon. Yn lle ymdrechu i leihau aflonyddwch Brexit ar ynys Iwerddon, mae’r Llywodraeth Dorïaidd hon wedi rhoi cytundeb Gwener y Groglith mewn mwy o berygl nag ar unrhyw adeg dros y 24 mlynedd ddiwethaf.

Yn olaf, rhaid inni ystyried goblygiadau’r Bil hwn o safbwynt Cymreig, a’r niwed posibl y gallai ei achosi i rwydweithiau o ran cydweithio hollbwysig Cymru ag Iwerddon. Fel ein cymydog Ewropeaidd agosaf, mae perthynas Cymru ag Iwerddon yn chwarae rhan arwyddocaol yn strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru o safbwynt masnach a diwylliant. Mae’n hollbwysig, felly, fod y Senedd hon yn cyfleu neges gadarn i’n cyfeillion Gwyddelig ein bod yn gwrthod unrhyw fesurau a allai niweidio ein rhwymau cryf o gydweithio. Yn ogystal â hyn, fel y mae’r Cwnsler Cyffredinol eisoes wedi cyfeirio ato, mae’r ffaith na ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru wrth ddrafftio’r ddeddfwriaeth hon, er gwaethaf ei pherthnasedd amlwg i Gymru, yn cyfleu diffyg parch Llywodraeth San Steffan tuag at ddatganoli. Mae hefyd yn tanlinellu pa mor wag yw eu rhethreg bod y Deyrnas Unedig yn undeb cyfartal.

Am y rhesymau hyn, mae Plaid Cymru'n gwrthwynebu'n gryf y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, ac rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru yn rhannu ein barn ar y mater.