Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 22 Tachwedd 2022.
Rwy'n ddiolchgar am hynny. Mae eich arweinydd chi yn Senedd y DU, Syr Keir Starmer, wedi derbyn hyn—ac rwy'n dyfynnu. Dywedodd ef:
'Nid wyf i'n ceisio honni nad oes yna broblemau a heriau gyda'r protocol'.
Mae ef yn derbyn bod angen ei newid, ac eto nid yw ef wedi cynnig yr un dim o ran yr hyn y byddai ef yn ei newid a sut y byddai ef yn sicrhau'r newid hwnnw. A wnewch chi ddweud wrthym ni: sut fyddech chi'n mynd i'r afael â'r problemau gyda'r protocol y mae eich arweinydd eich hun yn derbyn eu bod nhw'n bodoli?