8. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Hyfforddiant y Gwasanaeth Tân a’r capasiti i ehangu’r rôl

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 22 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 4:48, 22 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Erbyn hyn mae llai na hanner cymaint o danau ag oedd yn 2005, ac mae tanau preswyl, sy'n cyfrif am y rhan fwyaf o farwolaethau ac anafiadau tân, yn agos at neu ar eu hisaf erioed. Er bod hyn yn anochel wedi lleihau'r llwyth gwaith ymateb brys i ddiffoddwyr tân yn hyn o beth, mae angen o hyd i ddiffoddwyr tân allu ymateb i unrhyw dân neu ddigwyddiad arall ar unrhyw adeg, a gall argyfwng mawr barhau i fod angen yr holl adnoddau sydd ar gael ar draws ardal eang. Felly, er bod rhai gostyngiadau cymedrol wedi bod yn nifer y diffoddwyr tân dros y 10 i 15 mlynedd diwethaf, nid ydynt yn agos at fod mor fawr â'r gostyngiad yn nifer y tanau. Er hynny, mae hyn yn creu potensial clir i'r gwasanaeth wneud mwy, ac, yn benodol, i gefnogi ein GIG. Mae gan ddiffoddwyr tân lawer o'r sgiliau a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer hyn eisoes, ac mae tystiolaeth gref y byddai hyn yn sicrhau canlyniadau iechyd gwell ac arbedion sylweddol.  Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, er enghraifft, mae diffoddwyr tân o dros 20 o orsafoedd yn ymateb yn rheolaidd i ddigwyddiadau meddygol i gefnogi'r gwasanaeth ambiwlans. Maen nhw wedi achub bywydau cannoedd o gleifion ac wedi gwella'r canlyniadau i lawer mwy.

Y nod tymor hir fu, ac yw, i wireddu'r potensial hwn. Ym mis Mawrth 2021, fe wnes i ddatganiad ar y cyd â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd yn nodi'r weledigaeth hon ac yn disgrifio swyddogaeth ehangach i'r gwasanaethau tân ac achub. Roedd ganddo dair prif elfen: ymateb meddygol brys i achosion lle mae brys yn hanfodol i oroesi, fel ataliad ar y galon; ymateb i bobl sydd wedi syrthio ond heb eu hanafu, nad ydynt yn brif flaenoriaeth i'r gwasanaeth ambiwlans ond y gall eu cyflwr ddirywio'n gyflym; ac atal cwympiadau a damweiniau eraill yn y cartref.

Er mwyn rhoi sicrwydd i mi y gellid gwireddu hyn yn ddiogel, cynhaliodd ein prif gynghorydd tân ac achub, Dan Stephens, adolygiad ar ddiwedd 2021 o'r gallu sydd gan y gwasanaeth i ymgymryd â swyddogaeth ehangach. Daeth ei adolygiad ef i'r casgliad fod gallu o'r fath yn bodoli, ond bod angen newidiadau i arferion gwaith i'w wireddu'n ddiogel. Yn benodol, roedd llawer o'r gallu yn ystod y shifft nos gyfan, pan nad yw diffoddwyr tân yn aml yn rhan o ymateb brys ac yn cael gorffwys neu gysgu os nad ydynt, tra bod tystiolaeth yn dangos bod y rhan fwyaf o argyfyngau meddygol yn digwydd yn ystod y dydd.

Rhywbeth a barai ofid mwy uniongyrchol oedd bod y prif gynghorydd tân ac achub, yn ystod yr adolygiad hwn, wedi canfod tystiolaeth bod angen newidiadau beth bynnag, gan nad oedd diffoddwyr tân yn treulio digon o amser yn cynnal gweithgareddau i leihau'r tebygolrwydd o dân neu yn hyfforddi i sicrhau bod eu sgiliau yr hyn y dylen nhw fod. Mae unrhyw ddiffygion mewn hyfforddiant yn arbennig o bryderus. Mae diffodd tân yn broffesiwn hynod gymhleth, sydd angen meistrolaeth ar ystod eang o brosesau, tactegau ac offer, a dealltwriaeth lawn o'r peryglon sy'n bodoli gyda thannau neu ddigwyddiad arall. Os na chefnogir diffoddwyr tân i gael eu hyfforddi'n briodol, ni allant weithio'n ddiogel, sy'n peryglu eu diogelwch eu hunain a'r rhai y gelwir arnynt i'w hamddiffyn. Ac fel sy'n wir, yn naturiol, bydd sgiliau'n dirywio os na chânt eu defnyddio'n rheolaidd, mae'r dirywiad yn nifer yr achosion o dân yn atgyfnerthu'r angen am hyfforddiant rheolaidd o ansawdd uchel.

O ganlyniad, cynhaliodd y prif gynghorydd tân ac achub adolygiad manwl pellach o hyfforddiant diffoddwyr tân, a gyhoeddwyd fis diwethaf. Canfu hyn nifer o faterion a allai fod yn ddifrifol, megis diffyg mynediad at gyfleusterau hyfforddi realistig a dibyniaeth ormodol ar swyddogion isel eu safle—heb unrhyw fai arnyn nhw—a allai fod heb hyfforddiant cefndirol. Yn fwyaf pryderus, fe wnaeth y prif gynghorydd tân ac achub argymhelliad dros dro fis Mawrth diwethaf y dylai ein tri gwasanaeth tân ac achub sefydlu ar frys faint o amser hyfforddi sydd ei angen, ond eto does yr un ohonyn nhw wedi gwneud ymgais ddifrifol i wneud hynny. Felly, ysgrifennais at gadeiryddion yr awdurdodau tân ac achub ar 6 Hydref, yn eu hannog i dderbyn a gweithredu ar yr argymhellion hyn yn ddi-oed. Roeddwn yn falch bod awdurdod tân ac achub y gogledd wedi gwneud hynny ac wedi amlinellu rhaglen gynhwysfawr yn eu hymateb manwl i nodi a mynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion. Byddwn yn annog y lleill i ddilyn yr esiampl hon.

Mae tri rheswm sylfaenol pam fod angen gweithredu. Yn gyntaf, mae diffodd tân wedi dod yn llawer mwy cymhleth yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd datblygiadau mewn technoleg, ehangu swyddogaeth y gwasanaeth—er enghraifft, i gynnwys llifogydd a damweiniau ffordd—a newidiadau i ddeunyddiau a chynnwys adeiladu. Eto i gyd, nid yw arferion gwaith y gwasanaeth a'r amser hyfforddi sydd ar gael wedi newid i raddau helaeth ers y 1970au. Yn ail, mae pryderon penodol ynghylch diffoddwyr tân neilltuedig neu ar alwad, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o'r gweithlu ac yn cynnwys y mwyafrif helaeth o Gymru. Dim ond dwy neu dair awr o hyfforddiant yr wythnos sydd ganddyn nhw bob wythnos—ffracsiwn bach o'r hyn a gaiff eu cydweithwyr llawn amser—ond eto mae'n rhaid iddyn nhw gynnal yr un sgiliau i'r un lefel. Mae hynny'n peryglu gofyn gormod o'r criwiau hynod ymroddedig hyn. Mae materion ehangach a hirdymor yn ymwneud â chynaliadwyedd y system dyletswyddau neilltuedig, a byddwn yn cydweithio â chyflogwyr ac undebau llafur i fynd i'r afael â hyn. Ond mae'r problemau ynglŷn â hyfforddiant yn bryder sydd angen rhoi sylw iddo ar unwaith.

Yn drydydd, ac yn bwysicaf oll, nid risgiau technegol neu ddamcaniaethol yn unig yw'r rhain; maen nhw'n gosod diffoddwyr tân a'r cyhoedd mewn perygl amlwg. Mae diffygion hyfforddi wedi bod yn gysylltiedig â bron pob marwolaeth diffoddwr tân yn y DU yn y 25 mlynedd diwethaf, ac yn y golled drasig o fywyd yn Nhŵr Grenfell a mannau eraill. Nid wyf yn barod i aros am drasiedi i sbarduno'r camau yma. Er ein bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i swyddogaeth ehangach i ddiffoddwyr tân, ni allwn ofyn i ddiffoddwyr tân ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol tra bod pryderon am ddiogelwch arferion a hyfforddiant presennol. Byddwn yn dychwelyd at yr amcan hwnnw unwaith y bydd gennym ni sicrwydd llawn ynghylch y materion hyn. Rydym ni nawr yn disgwyl i'r cyflogwyr fynd i'r afael yn llawn â'r materion hyn yn gadarn ac ar frys, rhywbeth rwy'n siŵr y byddai Aelodau'n cytuno ag ef. Byddai methu â gwneud hynny yn weithred anghyfrifol ar ran cyflogwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn glir bod angen gweithredu ar hyfforddiant diffoddwyr tân, a byddwn yn cymryd camau priodol i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Mae sicrhau diogelwch y gweithlu ymhlith dyletswyddau pwysicaf unrhyw gyflogwr, ac yn elfen allweddol o bartneriaeth gymdeithasol. Mae hynny'n arbennig o wir ar gyfer diffodd tân, sydd yn gynhenid beryglus ac sydd hefyd yn cynnwys diogelu'r cyhoedd yn uniongyrchol. Felly, fy mwriad yw sefydlu fforwm partneriaeth gymdeithasol ar gyfer gwasanaethau tân ac achub, a fydd yn cynnwys cyflogwyr ac undebau llafur yn mynd i'r afael â'r materion hyn a materion eraill ar y cyd, a bydd yn cwrdd am y tro cyntaf yn gynnar y flwyddyn nesaf. Yn y tymor byrrach, mae angen mynd i'r afael â'r pryderon gwirioneddol iawn ynghylch hyfforddiant, ond bydd y fforwm yn rhoi llwyfan i ni yn y tymor hirach i gydweithio i gefnogi a chynnal ein gwasanaethau tân ac achub a'r rhai sy'n eu darparu.