Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 22 Tachwedd 2022.
Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i chi am roi'r cyfle i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru.
Pan wnes i roi diweddariad i chi ddiwethaf ym mis Hydref, roedd Cymru wedi croesawu ychydig o dan 6,000 o Wcreiniaid o dan gynllun Cartrefi i Wcráin, gan gynnwys o dan ein llwybr uwch-noddwr. Mae rhai yn parhau i gyrraedd gan bwyll ond yn gyson, ac roedd ychydig dros 6,100 o Wcreiniaid a noddwyd gan Lywodraeth Cymru ac aelwydydd Cymru wedi cyrraedd Cymru erbyn 15 Tachwedd. Mae mwy o bobl wedi cyrraedd dan y cynllun teuluoedd o Wcráin, ond nid ydym yn cael y data hwnnw gan Lywodraeth y DU.
Mae mwy na 8,450 o fisas bellach wedi'u rhoi i bobl o Wcráin sydd â noddwyr yng Nghymru, felly gallwn ddisgwyl i'r nifer sy'n cyrraedd barhau i dyfu. Rydym yn ymwybodol y gall digwyddiadau yn Wcráin gael effaith uniongyrchol ar nifer yr Wcreiniaid a allai gyrraedd Cymru, ac er ein bod wedi gweld nifer fach o unigolion yn ceisio dychwelyd i Gymru ar ôl cyfnod yn ôl yn Wcráin, nid ydym yn gweld newid sylweddol ar hyn o bryd.
Cefais fy siomi'n fawr o beidio gweld unrhyw eglurder yn natganiad yr hydref am ddyfodol ariannol cynlluniau Wcráin. Rydym wedi galw dro ar ôl tro am gydraddoldeb ariannu rhwng cynllun Cartrefi i Wcráin a'r cynllun teuluoedd o Wcráin a'r cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin. Mae angen cadarnhad o gyllid blwyddyn 2 a 3 ar frys i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â thaliadau 'diolch' parhaus ac uwch i'r rhai sy'n lletya. Byddai'r olaf yn sicrhau y gall trefniadau lletya barhau er gwaethaf effeithiau costau byw.
Heb sicrwydd ynghylch ariannu'r dyfodol, mae Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a lletywyr Cymru i gyd yn wynebu dewisiadau anodd ynghylch y gefnogaeth y gallwn ni ei darparu i Wcreiniaid sy'n chwilio am noddfa. Ein gobaith yw y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi'r eglurdeb hwn yn gyflym. Mewn ymateb i fy llythyrau at Weinidogion y DU am y materion hyn, mae'n bleser gennyf ddweud imi glywed gan Weinidog arweiniol newydd Cartrefi i Wcráin, Felicity Buchan AS, yr wythnos diwethaf. Er gwaethaf yr ansicrwydd hwn am y cyllid, mae cyfarfod wedi'i gynnull ar gyfer dydd Iau gyda Gweinidog Llywodraeth yr Alban, Neil Gray ASP, a minnau, ynglŷn â'n sefyllfa ariannol.
Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi pobl i mewn i lety tymor hirach, fel y gallant gael bywydau mwy sefydlog. Mae dros 700 o Wcreiniaid a oedd yn cael eu cefnogi drwy'r llwybr uwch-noddwr bellach wedi symud ymlaen o lety cychwynnol, dros 500 o'r rhain yng Nghymru, naill ai gyda lletywyr, yn y sector rhentu preifat neu mewn tai dros dro a thymor hirach eraill. Fodd bynnag, mae'r pwysau ehangach ar dai ar draws Cymru yn golygu na allwn ni gefnogi pobl i lety mwy hirdymor mor gyflym ag y byddem ni'n dymuno. Felly, byddwn ni'n parhau i annog darpar letywyr i ddod ymlaen a chofrestru eu diddordeb yn llyw.cymru/cynnigcartref. Mae lletya yn cynnig llety cyflym, hyblyg a chost-effeithiol sy'n galluogi pobl i adennill rhywfaint o annibyniaeth ac i integreiddio mewn cymunedau lleol. Rydym ni'n gwybod bod rhai unigolion a theuluoedd wedi dod ymlaen i gynnig eu cartrefi ac yn dal i aros i fod yn lletywyr. Rwy'n ddiolchgar iawn am eu haelioni. Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a Chyfiawnder Tai Cymru i helpu i gefnogi'r broses baru. Ond nid oes gennym hanner digon o letywyr o hyd i ddarparu ar gyfer pawb sydd angen cefnogaeth. Byddem hefyd yn annog y rhai sy'n ystyried lletya i ymweld â gwefan Cyfiawnder Tai Cymru ac ymuno â seminar cyflwyniad i letya i gael gwybod rhagor.
Hoffwn ganolbwyntio gweddill y datganiad hwn ar goffâd pwysig a drafodwyd gennym yn y Siambr hon ym mis Mai. Mae mis Tachwedd eleni yn nodi dechrau cyfnod o goffáu naw deg mlynedd ers yr Holodomor yn Wcráin. Dyma'r newyn o waith dyn a achosodd i filiynau farw ac fe gafodd ei amlygu i'r byd, yn rhannol, gan ddewrder y newyddiadurwr o Gymru, Gareth Jones. Roedd y ddadl ym mis Mai yn fyfyrdod pwysig ar y digwyddiadau hynny ac fe wnaethom ymrwymo i goffáu'r digwyddiad yng Nghymru.
Ar y pedwerydd dydd Sadwrn ym mhob mis Tachwedd, mae'r Holodomor yn cael ei goffáu yn rhyngwladol. Byddwn yn trefnu digwyddiad yng Ngerddi Alexandra yng Nghaerdydd, ynghyd â chymaint o gofebion pwysig eraill i heddwch. Yn rhan o'r digwyddiad bydd cyfranogiad gennyf i, y Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol, llywodraeth leol, arweinwyr crefyddol, a dirprwy lysgennad Wcráin i'r Deyrnas Unedig. Bydd Wcreiniaid yn cael eu gwahodd i fod yn bresennol a byddwn yn gosod torchau i gofio'r rhai a ddioddefodd yn ystod gweithredoedd blaenorol a gyflawnwyd gan lywodraeth ym Moscow. Ar ôl y coffáu, byddwn ni'n hyrwyddo cofio'r Holodomor ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i geisio codi ymwybyddiaeth ymhellach. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom hefyd ysgrifennu at letywyr ledled Cymru i sicrhau eu bod yn gwybod am Holodomor a'u hannog i drafod cynlluniau gyda'u gwesteion.
Mae erchyllterau presennol Putin yn Wcráin yn rhan o batrwm ymosodol tymor hirach yn erbyn pobl Wcráin sy'n ymestyn yn ôl ddegawdau lawer, ac mae nodi'r Holodomor fel hyn yn taflu goleuni ar hyn. Gwnaeth Gareth Jones, y newyddiadurwr o Gymru, a oedd yn ysgrifennu am y newyn, yr oedd Stalin yn gyfrifol amdano, hi'n glir nad oedd yr Wcreiniaid yr effeithiwyd arnyn nhw yn ceisio tosturi ac fe gyfeiriodd at eu dewrder. Rwy'n credu y gallwn ni i gyd weld y nodweddion hynny sy'n cael eu amlygu yn Wcráin eto heddiw. Ac er ein bod yn anrhydeddu cydnerthedd a dewrder pobl Wcráin yn wyneb ymddygiad ymosodol Putin, rydym hefyd yn ailddatgan ein hymrwymiad i helpu Wcreiniaid yma yng Nghymru i gofnodi eu gwybodaeth am droseddau rhyfel a gyflawnwyd mewn cyfnod mwy diweddar.
Trwy sefydlu Donetsk ac adroddiadau Gareth Jones, yn ogystal â'r 500 a mwy o Wcreiniaid a alwodd Cymru yn gartref cyn y gwrthdaro hwn, roedd gan ein gwledydd sawl edefyn yn ein cysylltu. Nawr, rydyn ni'n gartref i fwy na 7,000 o Wcreiniaid mae'n debyg ac mae'r edafedd niferus hynny rhwng ein pobol yn ein clymu ni at ein gilydd yn gryfach nag erioed. Rwy'n gwybod y bydd pob Aelod yn ymuno â mi i fynegi undod Cymreig gyda phob un o Wcráin ar ben-blwydd yr Holodomor.