Part of the debate – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd sydd gyntaf y prynhawn yma, a dwi wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, yn ateb yr holl gwestiynau y prynhawn yma. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Sarah Murphy.