Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Diolch am eich datganiad, Weinidog. Wrth gwrs, nid oedd cyffordd 1 yn Rhiwabon wedi'i chynnwys yn yr adolygiad ffyrdd, ac felly nid yw gwaith ar wella’r gyffordd honno wedi’i oedi, a hynny am reswm da. Mae’r gyffordd benodol honno’n beryg bywyd, ac mae wedi creu hafn o dagfeydd i fyny’r A483, gyda chynnydd mewn allyriadau carbon o ganlyniad i hynny. Ac wrth gwrs, mae hefyd yn anfon modurwyr ar ffyrdd lleol, gan beryglu bywydau unwaith eto, yn enwedig plant ysgol, a dirywio ansawdd yr aer yn Rhiwabon a'r cyffiniau. Weinidog, a wnewch chi gytuno i ymweld â’r A483 ac i gyfarfod ag arweinwyr cymunedol, ac a wnewch chi amlinellu pa gynnydd a wnaed yn y flwyddyn ddiwethaf ar waith i wella cyffordd 1 ar yr A483?