Gwasanaethau Rheilffordd

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 23 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:58, 23 Tachwedd 2022

Dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Wrth gwrs, byddi di a minnau yn gyfarwydd iawn gyda'r llinell yma, gan ei bod hi'n mynd trwy ganol y dref lle cawsom ni ein haddysg. Mae hi'n cynnig taith hyfryd, wrth gwrs, o gwmpas canolbarth Cymru. Ond mae nifer o'm etholwyr innau wedi bod yn cael profiadau gwael yn ddiweddar o ran y gwasanaeth—o ran oedi cyson, ac argaeledd gwael ac annibynadwy. Yn ystod y mis diwethaf, er enghraifft, rwyf wedi cael ar ddeall bod un etholwr wedi cael ei adael i bob pwrpas gyda'i gyd-deithwyr yn Llanwrtyd yn aros oriau am wasanaeth bws amgen yn lle'r trên. Bu'n rhaid i etholwr arall ganslo gwyliau yn yr Amwythig ar ôl i wasanaeth gael ei ganslo heb rybudd o flaen llaw. Yn ogystal â hyn, mae problemau hefyd yn Nglan-y-fferi o ran y llinell arall, lle dyw'r gwasanaeth sy'n mynd o Fanceinion i Aberdaugleddau ddim yn stopio yn Nglan-y-fferi er ei fod e'n mynd trwy'r pentref. Felly, oes modd cael gair gyda Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â'r ddau bwynt hynny?