Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Ffocws ein rhaglen Trawsnewid Trefi yw datblygu canol ein trefi yn gynaliadwy, cefnogi buddsoddiad yn ein trefi sy'n cael eu llunio gan gynlluniau creu lleoedd ac sy'n cynnwys mannau gwyrdd, ailddefnyddio adeiladau anghyfannedd fel canolfannau cymunedol a chynyddu amrywiaeth y gwasanaethau sydd ar gael.
Ymwelais am y tro cyntaf â marchnad Casnewydd ar ei newydd wedd yr wythnos diwethaf, wedi ymweliad gyda John Griffiths i agor y storfa ddiogel ar gyfer beiciau ynghanol y ganolfan, a rhaid i mi ddweud, roeddwn yn meddwl bod y farchnad yn wych ac rwy'n falch o'r rôl a chwaraewyd gennym ni gyda'r cyngor lleol i wneud hwnnw'n gyfleuster deniadol, a dywedir wrthyf ei fod yn llawn ar benwythnosau. Ac i'r rhai sydd heb ymweld, byddwn yn eich annog i fynd yno.