Ynni Adnewyddadwy

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 23 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 2:17, 23 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Weinidog, fel gwlad sydd ag arfordir sylweddol, mae'r cyfleoedd i harneisio grym y môr i gynhyrchu ynni yn enfawr, ac er y bu rhai cyhoeddiadau diweddar, fel ym Morlais yng ngogledd Cymru, hoffwn weld mwy o uchelgais gan y Llywodraeth, gan weithio gydag Ystad y Goron a phartneriaid allweddol eraill, i ddatblygu'r uchelgais os ydym am droi ein cynhyrchiant ynni a'n heconomi tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. Un ardal arwyddocaol yw aber afon Hafren, sydd â'r amrediad llanw a'r grym llanw mwyaf trawiadol, ond nid oes neb wedi manteisio ar hynny hyd yma. A yw'n bryd bellach inni ailedrych ar hyn gyda Llywodraeth y DU ac eraill?