Part of the debate – Senedd Cymru am 6:34 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon, a dwi'n ddiolchgar iawn i Carolyn Thomas, Luke Fletcher a Mabon ap Gwynfor am dderbyn y gwahoddiad i gyfrannu i'r ddadl.
Fe wnaeth y pandemig ni yn fwy ymwybodol nag erioed o'r blaen o bwysigrwydd cymunedau cryf a gwydn. Roedd ein cymunedau ni ar flaen y gad yn yr ymateb i'r pandemig, gyda chymdogion a mudiadau cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi'r llai ffodus a bregus yn eu cymunedau. Yn dilyn degawd o doriadau llym gan y Torïaid, maen nhw nawr yn wynebu argyfwng costau byw, ac mae dyletswydd arnon ni i gefnogi'r cymunedau hynny i ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw nid yn unig i oroesi, ond i ffynnu.
Wrth galon cymunedau llewyrchus mae busnesau lleol ffyniannus, tafarndai, siopau, caffis, swyddfeydd post ac yn y blaen. Yn anffodus, yn fwyfwy y dyddiau hyn, mae tudalennau papurau newydd ledled y rhanbarth dwi'n ei chynrychioli yn llawn straeon am y canolfannau cymunedol hyn—hanfodol hyn, os caf i ddweud—yn cau, a gyda hyn, daw risg wirioneddol i gynaliadwyedd ein cymunedau, ac wrth gwrs, i'r iaith Gymraeg a'n diwylliant ni.
Fodd bynnag, mae'n galonogol gweld cymunedau, yn ystod y pandemig a chyn hynny hefyd, yn dod at ei gilydd i warchod neu brynu'r asedau cymunedol pwysig hyn. O dafarn y Cwmdu yn Sir Gaerfyrddin, i Dafarn Sinc yn Sir Benfro; o'r Farmers Arms ym Mannau Brycheiniog i Dafarn y Plu yn Llanystumdwy, mae tafarndai—a llawer mwy na'r rhai dwi wedi'u henwi—sy’n eiddo i’r gymuned yn chwarae rôl fwyfwy pwysig. Yn Nhre’r-ddôl, er enghraifft, mae Cletwr yn gaffi a siop gymunedol sy’n cefnogi cynhyrchwyr lleol, yn darparu nwyddau hanfodol ac yn hwyluso amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol Cymreig. Yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, mae prosiect Siop Havards wrthi'n codi £450,000 i brynu yr hen siop ironmongers cyn y Nadolig. Ac os yn llwyddiannus, hon fyddai’r siop nwyddau gymunedol gyntaf ym Mhrydain gyfan, ac mae eu cynllun busnes nhw yn cynnwys rôl greiddiol i hyrwyddo a diogelu’r iaith Gymraeg.