Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Mae'n hanfodol fod dysgu wyneb yn wyneb o ansawdd uchel yn cael ei gynnal i bob dysgwr pryd bynnag y bydd yn bosibl ac yn ddiogel i wneud hynny. Dylai unrhyw newid i ddysgu o bell fod yn ddewis olaf a dylai ddigwydd mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, er enghraifft lle nodir risg i iechyd a diogelwch neu ddiogelu.