Mynediad At Addysg

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 23 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:20, 23 Tachwedd 2022

Diolch, Weinidog. Gwn i chi ymweld yn ddiweddar ag Ysgol Uwchradd Llanishen, lle codwyd gyda chi cost trafnidiaeth fel un o'r rhwystrau sy'n effeithio ar bresenoldeb dysgwyr yn yr ysgol. Mae hon yn broblem barhaus sydd wedi ei chodi gyda mi, ac yn rhywbeth rydych wedi dweud yn flaenorol eich bod yn cydweithio efo'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd arno. Serch hynny, deallaf gan y dysgwyr mai gwaethygu mae'r sefyllfa, gyda mwy o ddysgwyr wedi cael eu gwrthod rhag mynd ar y bws gan nad oedd ganddynt arian i dalu am siwrnai. Pa drafodaethau sydd wedi eu cynnal felly gydag awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru—sef Caerdydd, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf—i sicrhau nad yw cost y diwrnod ysgol, gan gynnwys cost trafnidiaeth, yn rhwystr i bob disgybl fynd i'r ysgol?