Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Wel, er eglurder, fel rwy'n deall, ni chafodd y cynnig ei wneud yn ffurfiol. Mae'n ymddangos mai awgrym a wnaed mewn trafodaeth pwyllgor ydoedd, ac sy'n amlwg wedi dod yn wybodaeth gyhoeddus, ond nid oedd erioed yn gynnig ffurfiol, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae Cyngor Sir Powys wedi rhoi sicrwydd nad yw'n rhywbeth y maent yn bwriadu mynd ar ei drywydd. Ysgrifennodd fy swyddogion at y cyngor ar y pryd pan ddaeth hyn i sylw'r wasg i egluro ein bod i gyd yn ystyried ei bod yn bwysig fod dysgu wyneb yn wyneb yn cael ei flaenoriaethu drwyddi draw ac rydym wedi cael sicrwydd mai dyna hefyd yw bwriad Cyngor Sir Powys.