Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Hoffwn ofyn pa gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr mewn addysg bellach a cholegau eraill sydd ar y cyfan yn gwasanaethu'r myfyrwyr tlotaf, oherwydd ehangder eu cwricwlwm. Ni roddodd Llywodraeth y DU unrhyw arian i golegau yn y datganiad ariannol yr wythnos diwethaf, er eu bod wedi rhoi ychydig o arian i ysgolion. Beth y gall colegau yng Nghanol De Cymru ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru?