Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Lywydd, mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi cyfleoedd gwych i ddod â busnesau lleol i mewn. Fodd bynnag, mae'n fy mhryderu'n fawr fod y Gweinidog yn dal i beryglu amhleidgarwch ysgolion. Mae angen i ffocws cyntaf y Llywodraeth hon fod ar gael y pethau sylfaenol yn iawn yma yng Nghymru yn gyntaf. Cymru sydd â chanlyniadau gwaethaf y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yn y DU; nid yw athrawon yn teimlo eu bod yn cael digon o gefnogaeth i ddatblygu'r cwricwlwm newydd; nid oes gan ddisgyblion ac athrawon syniad o hyd sut ffurf fydd ar arholiadau; ac mae athrawon yn wynebu trais yn yr ystafell ddosbarth yn ddyddiol. Gallwn barhau. Weinidog, oni fyddai'n well i chi dreulio'ch amser yn canolbwyntio ar gael y pethau sylfaenol yn iawn gyntaf yn y byd addysg yng Nghymru cyn gwastraffu arian ar geisio cyflyru ein plant?