2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 23 Tachwedd 2022.
4. Sut fydd cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn mynd i'r afael ag effaith amddifadedd ar addysg? OQ58753
Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn darparu cwricwlwm cyfoethog ac eang i bob plentyn, gan sicrhau bod pob plentyn yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau a fydd yn ei alluogi i symud ymlaen i'w lawn botensial, beth bynnag fo'i gefndir. Mae'n trin pob plentyn fel unigolyn, gyda chryfderau ac anghenion gwahanol.
[Anghlywadwy.]—miliwn o bunnoedd yn y flwyddyn ariannol hon mewn ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned, o gofio eu bod yn adeiladu partneriaethau gyda theuluoedd, cymunedau ac amrywiaeth o sefydliadau, ac yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion na fyddai'n elwa arnynt fel arall. Yn Nwyrain Casnewydd, mae Ysgol Gynradd Maendy yn enghraifft wych o ysgol gymunedol. Fe'i lleolir yn un o rannau mwyaf difreintiedig Casnewydd. Mae'n aml-ddiwylliannol, gyda phoblogaeth eithaf sylweddol o blant o gefndir Roma a de Asiaidd. Maent wedi partneru gyda nifer o sefydliadau trydydd sector, megis y Prosiect Ieuenctid Cymunedol, Mosg Iqra, Positive Futures, G-Expressions, ac Urban Circle, ac mae'r holl sefydliadau hyn yn sicr yn gwella profiad disgyblion a gwella canlyniadau. Mae Anna a Martine, aelodau o staff Maendy, yn gwirfoddoli i FoodCycle, sy'n coginio ac yn gweini prydau poeth i deuluoedd Ysgol Gynradd Maendy. Weinidog, mae'n wirioneddol ardderchog gweld aelodau staff yn rhoi eu hamser eu hunain, o ystyried y pwysau sydd arnynt, i roi yn ôl i'r gymuned y maent yn ei gwasanaethu, ac mae hyn heb os yn cael effaith gadarnhaol yn yr ystafell ddosbarth. Mae Ysgol Gynradd Maendy hefyd yn ysgol gofrestredig gyda'r gronfa cymorth dewisol, sy'n cynorthwyo teuluoedd eu disgyblion gyda'u ceisiadau i'r gronfa cymorth dewisol. Weinidog, mae ysgolion fel Ysgol Gynradd Maendy yn cynnig gobaith i deuluoedd bregus sy'n ei chael hi'n anodd gyda'r ymagwedd gyfannol a chymunedol hon tuag at addysg. Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod ein holl ysgolion yng Nghymru yn canolbwyntio ar y gymuned, fel Ysgol Gynradd Maendy, sut y gellir cysylltu hyn â chyflwyno'r cwricwlwm newydd, ac a wnewch chi ymweld â'r ysgol ichi allu gweld drosoch eich hun, Weinidog?
'Cynnig gobaith' yw'r union ymadrodd cywir yng nghwestiwn John Griffiths. Rwy'n ymwybodol o'r gwaith y mae Ysgol Gynradd Maendy yn ei wneud. Rwyf wedi cyfarfod â rhai o'r staff, a byddwn yn falch iawn o ymweld â'r ysgol i weld drosof fy hun y gwaith gwych y gwn eu bod yn ei wneud. Y math o waith y mae'r ysgol yn ei wneud yw'r union fath o waith rydym am weld mwy a mwy o ysgolion yng Nghymru'n cael eu cefnogi i'w wneud. Rydym am i bob ysgol yng Nghymru fod yn ysgol â phwyslais ar y gymuned. Bydd hynny'n edrych yn wahanol mewn ysgolion gwahanol ac mewn cymunedau gwahanol, ond mae'n ymwneud yn sylfaenol ag adeiladu partneriaeth gref gyda theuluoedd, ymateb i'w cymuned, a chydweithio â gwasanaethau eraill. Rwy'n credu bod y cwricwlwm, gyda'i ffocws ar adlewyrchu cynefin a gwaith clwstwr a gwaith i adlewyrchu cymuned yr ysgol, yn rhoi sylfaen dda iawn i'r uchelgais sydd gennym.
Mae gan ysgolion rôl hanfodol yn galluogi ein pobl ifanc i fod yn uchelgeisiol, yn fentrus ac yn foesegol—yr holl rinweddau a nodweddion sy'n ganolog i'r cwricwlwm newydd. Mae'r ysgol yn sylfaenol yn hynny, ond hefyd wrth gwrs, mae dylanwad amgylchedd eu cartref a'r gymuned ehangach yn dylanwadu'n fawr ar bobl ifanc. Dyna pam y mae gweithio ar y cyd, yn y ffordd roedd John Griffiths yn disgrifio'r gwaith yn Ysgol Gynradd Maendy, y cydweithio hwnnw, mor bwysig.
Hoffwn ddweud ein bod wedi cyhoeddi canllawiau yr wythnos diwethaf ar ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Maent yn esbonio beth yw ysgol sy'n canolbwyntio ar y gymuned a pham ein bod yn credu mai'r dull hwnnw yw'r dull gorau o gefnogi ein plant a'n pobl ifanc. Datblygwyd y canllawiau—a diolch i bawb a weithiodd gyda ni mewn perthynas â hwy—gan Estyn, yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, y consortia, awdurdodau lleol, sefydliadau'r trydydd sector ac eraill. Felly, mae'r rheini bellach wedi eu cyhoeddi. I ddilyn hynny, bydd gennym raglen o ddysgu proffesiynol i gefnogi penaethiaid ac athrawon ar y daith honno. Yn allweddol i hyn mae ymgysylltiad amlasiantaethol, a byddwn yn cyhoeddi canllawiau atodol ar y ffordd orau o gyflawni hynny hefyd i gyrraedd ein nod ac i adlewyrchu'r math o waith gwych roedd John Griffiths yn tynnu sylw ato yn ei gwestiwn.
Rydym yn gwybod bod cydberthynas glir rhwng perfformiad academaidd gwael ac amddifadedd parhaus. Dywedodd y Sefydliad Polisi Addysg, ac rwy'n dyfynnu:
'Roedd disgyblion dan anfantais barhaus yn profi bylchau anfantais mwy eto, gyda'r rhai yn Lloegr yn dioddef bwlch anfantais parhaus o 23 mis a'r rhai yng Nghymru'n profi bwlch o 29 mis. Heb fawr o arwydd y bydd y bylchau anfantais parhaus hyn yn cau... dylai llunwyr polisïau roi blaenoriaeth i wella canlyniadau disgyblion dan anfantais barhaus.'
Tra bo'n glir fod disgyblion Cymru mewn ardaloedd difreintiedig yn dioddef bwlch amddifadedd mwy na'u cyfoedion mewn rhannau eraill o'r DU, mae angen gwneud mwy i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn lleihau'r bwlch hwn. Felly, sut mae cwricwlwm newydd y Gweinidog yn mynd i'r afael â'r bwlch y mae myfyrwyr Cymru'n ei wynebu? A pha gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wrando ar y cyngor hwn a sicrhau bod y bwlch yn lleihau yma yng Nghymru?
Wel, cyhoeddwyd yr adroddiad y cyfeiria'r Aelod ato yn dilyn y datganiad a wneuthum yn y Senedd, os cofiaf yn iawn—ond gallwch fy nghywiro—yn ôl ym mis Mawrth, a'r araith a wneuthum wedyn i Sefydliad Bevan ym mis Mehefin, rwy'n credu, sy'n nodi rhaglen lawn o ymyriadau o'r blynyddoedd cynnar i ddysgu gydol oes i fynd i'r afael â rhai o'r heriau a gadarnhawyd i ni yn yr adroddiad y cyfeiria ato. Mae gan y cwricwlwm ran bwysig i'w chwarae yn hynny. Rwy'n credu y bydd yn ein helpu i ddiwallu anghenion dysgwyr difreintiedig a bregus, ac mae honno wedi bod yn ystyriaeth bwysig yn y ffordd y cafodd ei lunio. Mae gwreiddio'r tegwch hwnnw mewn ysgolion yn allweddol wrth gwrs, ac oherwydd bod y cwricwlwm yn mynd â'r dysgwr lle dônt o hyd i'r dysgwr, mae'n ein galluogi i ddarparu llwybrau pwrpasol, os mynnwch chi, i ddysgwyr a all ein helpu i gefnogi'r disgyblion mwyaf difreintiedig yn well.
Ond fe fydd yn cofio, efallai, os yw wedi cael cyfle i atgoffa ei hun ynglŷn â'r datganiad hwnnw a'r araith honno, yr ystod eang o gamau rydym wedi bod yn gweithio arnynt. Mae rhai ohonynt ar gyfer cefnogi ysgolion i gyflogi'r math o athrawon sydd eu hangen arnynt i ddatblygu strategaethau yn y ffordd orau i helpu'r disgyblion sydd angen fwyaf o gefnogaeth. Mae peth ohono'n ymwneud â chefnogaeth gan gymheiriaid i arweinwyr ysgolion. Rwyf ar fin cyhoeddi rhai cynlluniau yn y maes hwnnw. Mae peth ohono'n ymwneud â thrafodaethau eithaf heriol y mae angen inni eu cael ynglŷn â sut yr awn ati i setio mewn ysgolion. Felly, rydym yn mynd i wneud ymchwil ar hynny. Mae hynny'n digwydd yn eithaf helaeth yng Nghymru. Rwy'n credu bod angen trafodaeth i weld ai dyna'r dull cywir ym mhob amgylchiad. Mae peth ohono'n ymwneud ag ymyriadau llythrennedd a darllen y bydd yn gwybod o ddarllen yr adroddiad eu bod wedi bod yn her arbennig dros y ddwy flynedd ddiwethaf o COVID er enghraifft. Ac ar y pwynt roeddwn yn ei wneud ar y dechrau mewn perthynas â defnydd effeithiol o gyllid ysgolion sy'n targedu amddifadedd—felly, yng Nghymru, y gronfa datblygu disgyblion—rydym yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor ar hyn o bryd i ddeall beth sy'n gweithio'n effeithiol, lle mae'n gweithio'n effeithiol, ac i ganlyniad yr adolygiad fod ar gael i bob pennaeth fel y gallant wneud y defnydd gorau o'r cyllid hwnnw.
Ond ceir ystod eang o gamau sydd eisoes ar y gweill. Byddaf yn adrodd i'r Senedd gyda diweddariad ar hynny, yn y flwyddyn newydd rwy'n credu. Ond y peth hollbwysig yw fy mod o'r farn nad oes unrhyw ymyrraeth unigol yn mynd i allu mynd i'r afael â'r mater; mae'n galw am ystod o ymyriadau. A hoffwn ddweud hefyd—ac rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud bod yr adroddiad wedi cydnabod hyn—nid yw amddifadedd yn y gymdeithas yn rhywbeth y gall ysgol ei liniaru'n llwyr ar ei phen ei hun. Mae hynny'n rhan o strategaeth ehangach, ond mae yna waith y gall ysgolion ei wneud, ac mae'r gwaith hwnnw'n rhan o'r cynllun ehangach. Mae ar y gweill ac fel rwy'n dweud, byddaf yn falch iawn o roi diweddariad manylach ar y gwaith hwnnw yn y flwyddyn newydd.