Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 23 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:38, 23 Tachwedd 2022

Ar ôl degawd o lymder, mae ysgolion wedi gwneud yr holl arbedion y gallant eu gwneud, ac mae prif athrawon yn rhybuddio y bydd yr unig bethau sydd ar ôl i'w torri yn cael effaith uniongyrchol a sylweddol ar blant a phobl ifanc. Mae arolwg newydd NAHT Cymru yn dangos bod y mwyafrif o ysgolion yn dweud y bydd yn rhaid iddynt ddiswyddo athrawon neu ddod â chytundebau i ben oherwydd argyfwng ariannu. Dywedodd tua 73 y cant y bydd yn rhaid iddyn nhw ddiswyddo cynorthwywyr dosbarth neu leihau eu horiau, gyda bron i hanner yr ysgolion yn dweud y byddant yn cael eu gorfodi i gwtogi ar gymorth megis cwnsela, therapi a chymorth iechyd meddwl. Ymhellach, dywedodd 56 y cant y bydd yn rhaid iddynt leihau gwariant ar ymyriadau ychwanegol wedi'u targedu ar gyfer disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol, gan gynnwys anghenion dysgu ychwanegol. Sut bydd y Gweinidog yn sicrhau nad yw’r sefyllfa ariannol bresennol yn effeithio’n andwyol ar ddysgwyr, nac ychwaith y gweithlu yn ein hysgolion?