Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Mae cadw'n ddiogel ar-lein yn hanfodol i iechyd corfforol a meddyliol ein plant. Dyna pam y mae cymhwysedd digidol yn sgìl trawsgwricwlaidd gorfodol a dyna pam fod gan y maes iechyd a llesiant ffocws ar ddatblygu ymddygiad diogel ar-lein. Mae hefyd yn ffocws amlwg i'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb.