Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Mae'n destun balchder i ni yng Nghymru ein bod ni wedi parhau â'r lwfans cynhaliaeth addysg, sydd ddim yn wir mewn rhai mannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Ond un peth sydd ddim wedi digwydd, wrth gwrs, fel mae'r Gweinidog yn ymwybodol, yw dŷn ni ddim wedi codi'r lwfans yn unol â chwyddiant ers iddo fe gael ei gyflwyno yn 2004. Felly, mae wedi colli gwerth real yn ystod y cyfnod yna—bron i ddau ddegawd erbyn hyn—ac, wrth gwrs, mae hynny wedi cynyddu nawr gyda chwyddiant yn cynyddu yn aruthrol yn ystod y cyfnod diwethaf yma gyda'r crisis costau byw.
Mae Sefydliad Bevan yn amcangyfrif mai tua £45 y dylai'r lwfans fod nawr pe bai e wedi cadw yn unol â chwyddiant. Mi fyddai'r cynnydd yna yn gwneud cymaint o wahaniaeth i'r 18,000 o fyfyrwyr ar draws Cymru sydd yn derbyn y lwfans. Dwi'n gwybod bod arian yn brin, Weinidog. Pymtheng miliwn—tua—fyddai e'n costio, ond byddai e'n drawsnewidiol o ran ei effaith ar fyfyrwyr sydd ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig sydd gyda ni yn ein gwlad.