Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Diolch i Peter Fox am godi hyn ac am y ffordd y mae wedi'i godi. Mae'n her ddwys iawn, onid yw, ac mae llawer ohonom sydd wedi hen adael yr ysgol—ers amser hir yn fy achos i, o leiaf—yn ei chael hi'n anodd deall graddfa'r her mewn gwirionedd. Ond mae'n broblem fawr iawn, ac fel roedd Peter Fox yn dweud, mae'r dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn glir iawn o ran maint yr her y mae pobl ifanc yn ei hwynebu.
Fe wnaethoch grybwyll y maes dysgu iechyd a llesiant yn y cwricwlwm, ac mae hwnnw'n hanfodol i sut y gallwn ddysgu pobl ifanc i ddatblygu ymddygiadau diogel mewn perthynas â'r byd ar-lein. Mewn sawl ffordd, mae cymaint o agweddau ar ein bywydau bellach yn gysylltiedig â defnyddio technoleg fel bod dysgu llythrennedd a gwytnwch digidol yn gwbl hanfodol.
Mae gennym ardal bwrpasol ar Hwb, y platfform dysgu, o'r enw 'Cadw'n ddiogel ar-lein', sy'n darparu ystod o adnoddau i ddysgwyr ond hefyd, yn y ffordd roedd ei gwestiwn yn holi yn ei gylch, i deuluoedd, ymarferwyr, gweithwyr proffesiynol a llywodraethwyr. Dyna lle y gwnawn yn siŵr fod ein holl adnoddau yn y maes yn cael eu cynnwys. Mae rhai ohonynt wedi'u datblygu'n benodol o ganlyniad i'r gwaith y buom yn ei wneud mewn perthynas ag aflonyddu'n rhywiol ar gyfoedion yn yr ysgol. Mae adnoddau ehangach yno hefyd, ac mae hynny'n ymwneud â gwella gwytnwch digidol ar draws bywyd yr ysgol yn gyffredinol, gan gynnwys diogelwch ar-lein yn amlwg ond hefyd diogelwch seiber a diogelu data. Mae'r holl agweddau hynny'n gallu cael effaith sylweddol, oni allant, ar fywydau pobl ifanc.
Hefyd, hoffwn ddweud bod cadw plant yn ddiogel yn amlwg yn rhan o'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb, a diogelwch ar-lein yn y cyd-destun hwnnw, gan ymdrin â materion sy'n ymwneud â bwlio ar-lein, er enghraifft. Mae pob un o'r rheini wedi'u cynnwys yn y cod ar gam sy'n briodol yn ddatblygiadol, wedi'u trin mewn ffordd sensitif, a byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn dysgu proffesiynol a chefnogaeth i athrawon fel bod ganddynt yr adnoddau gorau sydd ar gael ar gyfer addysgu pobl ifanc yn y maes hwn.