Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Diolch, Weinidog. Oes modd i chi egluro pa waith sy'n digwydd i adnabod y pynciau hynny ble mae prinder o athrawon cyfrwng Cymraeg uwchradd? Rŷn ni'n deall bod prinder difrifol o ran y rhai sy’n hyfforddi mewn pynciau fel ffiseg a mathemateg, er enghraifft, ac felly hoffwn wybod beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i ddadansoddi’r data er mwyn bwydo i mewn i’r gwaith o ddenu mwy o fyfyrwyr gyda graddau yn y pynciau hynny i hyfforddi fel athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg. Pwy sydd â chyfrifoldeb i wneud y gwaith dadansoddi, cynllunio a monitro hynny? O ran ffiseg yn benodol, ar gyfer Cymru gyfan, dim ond 43 y cant o’r rhai sy’n addysgu’r pwnc mewn ysgolion uwchradd a gafodd hyfforddiant yn y pwnc. A all y Gweinidog gadarnhau nifer yr athrawon ffiseg a hyfforddwyd mewn ffiseg sy’n gweithio mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg? Y cymhelliant i hyfforddi i addysgu ffiseg mewn ysgolion uwchradd Cymraeg yw £20,000—£7,000 yn is na’r isafswm y bydd rhywun yn cael yn Lloegr. Mae’r bwlch ar gyfer y rhai sy’n addysgu yn y sector addysg bellach hyd yn oed yn fwy: £26,000 yn Lloegr o’i gymharu â dim ond £4,000 yng Nghymru. Felly, o ystyried yr angen, a yw’r Llywodraeth yn bwriadu mynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn?