Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Fel roeddwn i'n dweud wrth Adam Price yn gynharach—mewn ymateb i Adam Price—er nad ydym wedi gallu cynyddu gwerth y peth, rydym wedi gallu sicrhau bod y cynnig presennol cystal ag y gall fod. Felly, rydym wedi ehangu'r garfan gymwys i gynnwys rhai o'r bobl ifanc fwyaf bregus yng Nghymru, gan gynnwys rhai yr effeithiwyd arnynt gan Brexit, aelodau o deuluoedd y rhai sydd â statws mewnfudo gwarchodedig, er enghraifft, ac yn fwy diweddar, yr ehangu i gynnwys pobl ifanc sy'n ffoi o'r rhyfel yn Wcráin. Felly, rydym yn edrych bob amser ar ffyrdd y gallwn wneud yn siŵr fod cyrhaeddiad y lwfans cynhaliaeth addysg, ar ei lefel bresennol o leiaf, yn cael ei ymestyn. Fel roeddwn i'n dweud, rydym yn parhau i ganiatáu i ddysgwyr elwa o gyfnod estynedig o daliadau lwfans cynhaliaeth addysg wedi'u hôl-ddyddio. Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi hysbysiad i bob ysgol a choleg yn eu hatgoffa o'r ffordd y mae hynny'n gweithio, ac yn tynnu sylw at y disgresiwn yn y cynllun ar gyfer dysgwyr mewn amgylchiadau penodol—cyfrifoldebau gofalu, er enghraifft—i sicrhau nad ydynt dan anfantais o ran eu gallu i gael lwfans cynhaliaeth addysg. Gall pob unigolyn ifanc wneud cais am lwfans cynhaliaeth addysg ar unrhyw adeg yn y flwyddyn academaidd. Weithiau nid yw hynny'n hysbys; nid yw pobl yn ymwybodol o hynny. A lle mae eu hamgylchiadau teuluol yn newid, a allai arwain at ostyngiad mewn incwm, rydym yn annog pobl ifanc i wneud cais am lwfans cynhaliaeth addysg gydag asesiad incwm o'r flwyddyn gyfredol. Felly, byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu fel Llywodraeth, ac rwy'n gwybod bod colegau'n gwneud beth bynnag a allant i dynnu sylw at y cynllun presennol i wneud yn siŵr fod y nifer sy'n manteisio arno mor fawr ag y gall fod.