Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Weinidog, rydym yn gwybod bod cael y nifer cywir o weithwyr proffesiynol cymwys wedi eu cefnogi'n dda yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Mae ein colegau addysg uwch ac addysg bellach yn allweddol i sicrhau y gallwn ddenu, ysbrydoli a hyfforddi pobl yn yr ystod o ddisgyblaethau iechyd a gofal sydd eu hangen arnom. Maent yn gwneud gwaith gwych. O edrych yn benodol ar addysg bellach, beth arall y gallwn ei wneud i hyrwyddo gyrfa mewn gofal i'r bobl ifanc a fydd yn weithlu'r dyfodol?