3. Cwestiynau Amserol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 23 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:15, 23 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, fel y gwyddom, Gwnsler Cyffredinol, cyhoeddodd y Goruchaf Lys ei ddyfarniad nad oes gan Lywodraeth yr Alban, er gwaethaf cryfder y mandad democrataidd a sicrhawyd yn etholiad Holyrood y llynedd, lwybr cyfreithiol o dan drefniadau cyfansoddiadol presennol y Deyrnas Unedig i gynnal refferendwm annibyniaeth os yw Llywodraeth San Steffan yn parhau i wrthod rhoi ei chaniatâd. Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig eisoes wedi datgan yn Nhŷ'r Cyffredin y bydd yn parhau i ddiystyru'r mandad diamwys hwnnw, er y gallech ddweud bod ei fandad personol yn anuniongyrchol ar y gorau ac ychydig yn ddisylwedd. Ac mewn gwirionedd, yr hyn sydd gennym yma, wrth gwrs, yw feto San Steffan, i bob pwrpas, sy'n crisialu athrawiaeth goruchafiaeth San Steffan yn glir nad ydym ni, fel cenedl, na'r Alban, fel cenedl, yn undeb cydradd. Nid ydym yn Senedd gydradd ychwaith, ac yn anffodus, wrth gwrs, ni fydd y sefyllfa hon yn newid, hyd yn oed gyda newid Llywodraeth yn San Steffan, oherwydd mae arweinydd Llafur y DU ei hun wedi dweud na fydd yn cytuno i Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, o dan adran 30 yn achos yr Alban, i gynnal refferendwm ar annibyniaeth ychwaith. Felly, mae feto San Steffan yn cael ei ddefnyddio gan bleidiau Llafur a Cheidwadol yn San Steffan yn yr achos hwn.

Felly, a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â'r farn a fynegwyd heddiw gan Brif Weinidog yr Alban fod y dyfarniad hwn yn bendant ac yn ddigamsyniol yn dangos mai ffug yw'r syniad fod y Deyrnas Unedig yn bartneriaeth gydradd a gwirfoddol, yn gymdeithas wirfoddol? Nawr, mae Prif Weinidog yr Alban wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal cynhadledd arbennig i archwilio'r modd y gellid fframio etholiad cyffredinol nesaf y DU yn yr Alban fel refferendwm de facto. Nawr, mae hyn yn amlwg ymhell o fod yn ddelfrydol, ond dyma'r unig lwybr sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd, o ystyried y rhwystr ar lwybrau eraill tuag at hunanbenderfyniaeth. Fel y gŵyr y Cwnsler Cyffredinol, ceir cynsail hanesyddol yn hyn o beth, etholiad cyffredinol 1918, pan oedd Sinn Fein yn Iwerddon yn ceisio mandad ac yn sefyll dros sefydlu gweriniaeth Wyddelig, ac ar sail eu buddugoliaeth ysgubol yn y refferendwm hwnnw sefydlwyd Dáil Éireann a chyhoeddwyd gweriniaeth Iwerddon, er, yn anffodus, ni chafodd y mandad hwnnw ei barchu ar unwaith gan arwain at ganlyniadau trasig iawn y byddai pawb ohonom, rwy'n siŵr, yn dymuno pe baent wedi cael eu hosgoi.

A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â sylwadau'r Athro Ciaran Martin yn narlith y Senedd ar y cyd â Llywodraeth Cymru neithiwr y dylai holl genhedloedd yr ynysoedd hyn fod â llwybr clir a dilys i fynegi eu dymuniadau mewn perthynas â'u dyfodol cyfansoddiadol, gan gynnwys yr hawl i gynnal refferendwm annibyniaeth? A beth bynnag yw dyfarniad y Goruchaf Lys ynghylch ei ddehongliad o gyfraith ryngwladol, a yw'n cytuno, yn wleidyddol, yn ddemocrataidd, yn athronyddol, fod gan bob cenedl hawl i hunanbenderfyniaeth, ac fel y dywed y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol,

'Mae gan yr holl bobloedd hawl i hunanbenderfyniaeth'?

Fe fyddwch chi a minnau'n cytuno bod brys penodol ynghlwm wrth hynny yn achosion gwledydd sydd wedi cael eu gwladychu neu sy'n ddarostyngedig i feddiannaeth filwrol, yn sicr, ond mae'r egwyddor yn un gyffredinol y mae'n rhaid i bawb ohonom, fel democratiaid, ei harddel. Felly, a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno y dylai'r hawl i hunanbenderfyniaeth i Gymru, i'r Alban, i bobl gogledd Iwerddon, gael ei hymgorffori a'i gwarchod yng nghyfraith y DU er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg democrataidd sydd wedi'i ddatgelu'n amlwg yn y dyfarniad y bore yma? Mae'n effeithio'n arbennig ar bobl yr Alban, o ystyried y mandad clir iawn sydd yno, ond mae o bwys i ni hefyd wrth i ni ystyried ein dyfodol cyfansoddiadol. Er eich bod chi a minnau'n anghytuno mewn perthynas ag annibyniaeth, a fyddech chi, fel democrat, yn mynegi eich undod â phobl yr Alban ac yn mynegi barn glir Llywodraeth Cymru fod gan bob cenedl, gan gynnwys y genedl Albanaidd, a phobl yr Alban, hawl i hunanbenderfyniaeth ac y dylid parchu hynny?