6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad — Chweched Adroddiad i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 23 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 4:01, 23 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel Cadeirydd dynodedig dros dro y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol. Fe wnaeth y pwyllgor ystyried yr adroddiad gan y Comisiynydd Safonau mewn perthynas â chwyn a wnaed yn erbyn Hefin David AS ynglŷn â thrydariad sarhaus. Rhoddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd, ac mae ein hadroddiad yn nodi dyfarniad y pwyllgor ynglŷn â'r gosb sy'n briodol yn yr achos hwn. Mae'r ffeithiau sy'n ymwneud â'r gŵyn, a rhesymau'r pwyllgor dros ei argymhelliad, wedi'u nodi'n llawn yn adroddiad y pwyllgor. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i bwysleisio i'r Aelodau pa mor bwysig yw trin rhyngweithio ar y cyfryngau cymdeithasol yn unol â'r un egwyddorion a fyddai'n cael eu cymhwyso wrth ryngweithio wyneb yn wyneb ac atgoffa'r Aelodau fod cefnogaeth ar gael i Aelodau wrth ymdrin â'r cyfryngau cymdeithasol a defnydd cywir ohonynt. Mae'r cynnig a gyflwynwyd yn gwahodd y Senedd i gymeradwyo argymhelliad y pwyllgor.