Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Yn rhy aml, mae safleoedd wedi'u lleoli ymhell o wasanaethau ac amwynderau lleol, gan gynnwys ysgolion, ac fel arfer maent wedi'u lleoli ger prif-ffyrdd prysur a seilwaith diwydiannol. Clywsom gan yr Athro Jo Richardson o Brifysgol De Montfort, a nododd fod safleoedd yn aml wedi'u lleoli mewn ardaloedd anaddas,
'am mai dyna'r darn o dir gyda'r lleiaf o elyniaeth y gellid ei ddatblygu'.
Mae hyn yn amddifadu'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr o unrhyw gysylltiad â'r amgylchedd naturiol, a'r cyfle i wneud cartref gweddus. Mae hyn, yn ein barn ni, yn gwbl annerbyniol.
Lywydd dros dro, cawsom ein calonogi wrth glywed y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cytuno bod lleoli safleoedd wrth ymyl ffyrdd prysur ac yn bell o wasanaethau lleol yn annerbyniol, ac mae Llywodraeth Cymru gyda sefydliadau partner yn ceisio gwella canlyniadau drwy ei 'Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Mae'r pwyllgor yn croesawu cyhoeddi'r cynllun hwn; fodd bynnag, mae gennym amheuon ynghylch ei effeithiolrwydd posibl o ran ei allu i ddarparu mwy o safleoedd. Mae'n ddadleuol a ddylid rhoi pwyslais o'r fath ar y cynllun, gan fod deddfwriaeth eisoes yn bodoli sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddiwallu angen cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu mai ychydig iawn o atebolrwydd a geir dros fethu cyflawni'r dyletswyddau statudol hynny ar hyn o bryd. Dywedodd y Gweinidog wrth y pwyllgor fod y fframwaith deddfwriaethol yn 'gadarn' a bod 63 o leiniau newydd wedi'u hadeiladu ers 2014, gyda chyllid i adnewyddu llawer mwy. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y fframwaith yn effeithiol yn ymarferol, ac i nodi sut y bydd yn tynhau ei gwaith ar fonitro gweithrediad y Ddeddf, o ystyried y problemau y gwyddom eu bod yn bodoli mewn perthynas ag argaeledd safleoedd, ansawdd safleoedd, lleoli safleoedd addas, ac ansefydlogrwydd diwylliannol cyffredinol y ddarpariaeth yng Nghymru.
Yn 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' ceir ymrwymiad i greu rhwydwaith cenedlaethol o ddarpariaeth dramwy i hwyluso bywyd teithiol erbyn 2025. Clywsom fod diffyg darpariaeth dramwy a mannau aros yng Nghymru yn bryder gwirioneddol i'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Ar hyn o bryd, mae'r data'n dangos bod cyn lleied â dwy lain dramwy ar draws Cymru gyfan. Mae diffyg darpariaeth yn ychwanegu at yr heriau sy'n wynebu'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Mae pasio Deddf Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd Llywodraeth y DU 2022 wedi dwysáu pryder ymhlith nifer o fewn y gymuned honno. Mae'r Ddeddf yn gwneud tresmasu'n drosedd ac yn rhoi pwerau i'r heddlu fynd i'r afael â gwersylloedd heb awdurdod, a gall gynnwys atafaelu cerbydau gan y rhai sy'n byw yn y ffordd nomadaidd hon. Cafodd y pwyllgor sicrwydd gan heddluoedd Cymru mai cam olaf fyddai defnydd o bwerau o'r fath, ac y byddai ymateb amlasiantaethol yn parhau i gael ei fabwysiadu yma yng Nghymru. Serch hynny, mae lliniaru effaith y Ddeddf ar y cymunedau hyn yn hanfodol, a dim ond drwy ddarparu safleoedd a lleiniau digonol a phriodol ar draws ein gwlad y gellir gwneud hynny.
Er bod ffocws yr ymchwiliad ar ddarparu safleoedd awdurdodau lleol, mae nifer o deuluoedd yn ceisio sefydlu cartref eu hunain ar eu parseli tir eu hunain. Clywsom am fyrdd o rwystrau a rhwystrau cyfreithiol i roi caniatâd cynllunio. Mae llawer o deuluoedd, mewn gwirionedd, yn mynd i draul fawr i logi cynrychiolaeth gyfreithiol ac arbenigwyr cynllunio i'w helpu i lywio'u ffordd drwy system gymhleth, yn rhy aml heb lwyddiant. Roeddem yn falch o glywed, felly, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gomisiynu rhaglen beilot tair blynedd i ddarparu cyngor annibynnol y gellir ymddiried ynddo i bobl sy'n ceisio datblygu safleoedd preifat. Rydym yn edrych ymlaen at weld y rhaglen hon yn symud yn ei blaen yn gyflym, a byddwn yn edrych yn fanwl ar yr effaith a gaiff ar ganlyniadau.
Drwy gydol y broses o gasglu tystiolaeth, clywodd y pwyllgor fod rhagfarn a gwahaniaethu'n gyffredin yn y penderfyniadau a'r camau a gymerir gan sefydliadau a chynrychiolwyr etholedig. Fe wnaeth Comisiynydd Plant Cymru alw am wneud mwy i fynd i'r afael â'r rhagfarn sy'n bodoli o fewn awdurdodau lleol, ac ar lefel gymunedol, i atal gwahaniaethu mewn prosesau gwneud penderfyniadau. I'r perwyl hwn, rydym yn falch o weld bod 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' yn ymrwymo i gomisiynu darparwr i ddarparu hyfforddiant i aelodau ar ddiwylliant, anghenion a chryfderau cymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Fodd bynnag, rydym yn pryderu na fydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu i bob awdurdod lleol yng Nghymru, ac mae gennym amheuon ynglŷn ag i ba raddau y bydd yr hyfforddiant yn cael effaith barhaol. Argymhellwyd y dylid ehangu'r hyfforddiant i sector y cynghorau cymuned yng Nghymru.
Credwn fod angen gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o ddiwylliant, anghenion a chryfderau cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ymysg y gymuned ehangach, ac roeddem yn falch o glywed bod ein hargymhellion wedi eu derbyn yn llawn. Edrychwn ymlaen at fonitro datblygiad ac effaith y gwaith hwn dros y blynyddoedd nesaf, ac mae hynny'n cynnwys cyllid. Bydd cyllid i gefnogi'r gwaith o ddatblygu mesurau yn y cynllun gweithredu, yn ogystal â chefnogaeth ariannol barhaus i awdurdodau lleol, yn hanfodol i wella argaeledd safleoedd a lleiniau priodol yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu'r polisi cyllido presennol, gyda'r bwriad o dreialu ffyrdd ychwanegol neu newydd o ariannu'r ddarpariaeth o safleoedd, gan gynnwys cymorth ar gyfer safleoedd preifat, erbyn 2024. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i archwilio pob llwybr posibl ar gyfer ariannu datblygiad safleoedd yng Nghymru.
Rydym yn falch iawn o weld ein 21 o argymhellion yn cael eu derbyn yn llawn gan Lywodraeth Cymru, fel y dywedais yn gynharach, ac yn ein barn ni, maent yn nodi ffyrdd pwysig iawn ymlaen. Gwyddom fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Cymru gyfan wedi ymrwymo i wella nid yn unig y ddarpariaeth o safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ond hefyd i wella bywydau'r gymuned amrywiol hon.
Mae hwn yn fater pwysig iawn i ni, ac rwy'n credu bod ein hadroddiad wedi nodi'n eithaf amlwg beth yw realiti'r sefyllfa yma yng Nghymru ar hyn o bryd, a'r angen i wneud llawer mwy a gweithredu'n ymarferol ac yn effeithiol ar lawr gwlad, lle mae'n cyfrif mewn gwirionedd. Mae cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr eisiau lle i'w alw'n gartref am yr amser y byddant yno. Byddwn ni fel pwyllgor yn monitro'r mater pwysig hwn drwy gydol tymor y chweched Senedd hon i weld sut mae ymyriadau, a'r nodau yn 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' yn benodol, wedi effeithio'n gadarnhaol ar fywydau'r rhai y mae'n ceisio eu helpu. Rydym i gyd yn gwybod bod gweithredoedd yn dweud mwy na geiriau, ac yn yr achosion hyn, mae gwir angen gweithredu. Diolch.