Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Yn gyntaf oll, hoffwn dalu teyrnged i Teithio Ymlaen, sy’n sefydliad rhagorol iawn, ac sy’n cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Mae'n dda iawn am helpu'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr i fynnu eu hawliau, ond ni allant wneud hynny ar eu pen eu hunain, a dyna pam fy mod yn falch iawn fod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi edrych ar hyn, gan ein bod yn mynd i orfod parhau i ddychwelyd at hyn, os nad ydym yn mynd i gael yr hyn a ddywedodd Joel James, sef nad oes digon o gynnydd yn yr wyth mlynedd diwethaf. Gwn fod y Gweinidog yn hyrwyddo'r mater o ddifrif, ond a dweud y gwir, ni all y Gweinidog awdurdodi safleoedd mewn unrhyw awdurdod lleol penodol—mae angen i'r awdurdodau lleol wneud hynny—ac mae angen i bob corff cyhoeddus gael ychydig mwy o degwch yn eu dull o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r sefyllfa sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd yn annerbyniol.
Y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr yw un o’r cymunedau hynaf yn Ewrop, ac eto dyma’r grŵp ethnig y gwahaniaethir fwyaf yn ei erbyn, ledled Cymru yn ogystal â ledled Ewrop. Mae lefel y rhagfarn y maent yn ei dioddef yn waeth nag unrhyw beth y mae unrhyw grŵp ethnig leiafrifol arall yn ei ddioddef. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae awdurdodau lleol wedi methu gweithredu'r gofyniad o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 i ddadansoddi digonolrwydd neu annigonolrwydd y ddarpariaeth dai ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr. A dweud y gwir, maent wedi cael rhwydd hwynt i beidio â gwneud hynny, oherwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae symiau cyfalaf wedi’u neilltuo yng nghyllideb Llywodraeth Cymru i gyfrif am y gost o ddarparu safleoedd, ac at ei gilydd, mae awdurdodau lleol wedi anwybyddu’r broblem. Yn amlwg, nid oes unrhyw bleidleisiau i'w cael o wneud hyn, a dyna pam nad yw pobl yn ei wneud. A dyna pam fod pobl yn gorfod byw ger ffyrdd prysur gydag aer llygredig, lle na fyddai unrhyw un arall byth yn breuddwydio byw.
Hwy hefyd yw'r grŵp ethnig sy'n perfformio waethaf o bell ffordd o ran cyrhaeddiad addysgol. Mae angen i’r cwricwlwm fod yn ddigon hyblyg i ddiwallu anghenion pob disgybl, ac mae hynny’n cynnwys y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Ceir llawer o yrfaoedd sy'n eithaf addas mewn gwirionedd ar gyfer pobl a chanddynt ffordd deithiol o fyw. I bobl sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu, pan ddaw un prosiect i ben, rhaid i un arall ddechrau yn rhywle arall. Felly, mae llawer o fanteision a phethau cadarnhaol ynglŷn â ffordd o fyw Sipsiwn a Theithwyr, ond nid yw parch yn bosibl heb iddynt allu cyfranogi a heb i neb ymgynghori â hwy ynghylch llunio bywyd gwell iddynt.
Mae’n drasig mai un o benderfyniadau gwaethaf Llywodraeth Dorïaidd y DU, ymhlith rhestr hir o benderfyniadau gwael, yw troseddoli’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, sy’n gorfod stopio yn unrhyw le os nad oes safle cofrestredig ar gael. Mae'n gwbl annerbyniol. Rwy'n falch o glywed bod yr heddlu'n dweud mai dim ond fel dewis olaf y byddant yn troseddoli pobl ac yn mynd â'u carafanau oddi arnynt, ond ni allwn barhau fel hyn, ac mae awdurdodau lleol yn mynd i orfod cael eu dwyn i gyfrif.
Ceir rhywfaint o arferion da. Yn ôl yr hyn a gofiaf, mae sir Fynwy a sir Benfro wedi darparu rhai safleoedd da, ac mae awdurdodau lleol eraill wedi anwybyddu eu cyfrifoldebau. Rwy'n awgrymu bod angen inni barhau i ddod â’r mater hwn yn ôl i’r Senedd, gan ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom i sicrhau rhywfaint o gynnydd ar hyn. Gwn fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn awyddus iawn i weld cynnydd, ond mae angen iddi gysylltu â’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a sicrhau camau gweithredu ar hyn ar unwaith. Rwy'n falch iawn fod y Gweinidog wedi derbyn holl argymhellion yr hyn sy'n swnio fel ymchwiliad diddorol iawn, ond ni allwn barhau i nodi'r pethau hyn yn unig, mae'n rhaid inni weld newid.