Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Dyna oedd geiriau y Gweinidog wrth roi tystiolaeth inni, nad oedd hi'n ofn defnyddio'r grymoedd oedd ganddi. Ond, ar ôl blynyddoedd o fethu â delifro, mae'n anodd deall pam nad ydy'r grymoedd yna eisoes wedi cael eu defnyddio hyd yma. Felly, yn olaf, hoffwn ofyn i'r Gweinidog esbonio o dan ba amgylchiadau felly y buasai hi'n barod i ddefnyddio y grymoedd yma. Diolch.