Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. A gaf fi ddiolch i bawb a gyfrannodd heddiw at ddadl sy'n bwysig iawn yn fy marn i? Rwy'n credu ei bod yn edrych yn debyg fod yna dderbyniad cyffredin nad yw Cymru yn y sefyllfa y dylai fod ynddi mewn perthynas â'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Rydym yn hoffi meddwl amdanom ein hunain fel gwlad sy’n gryf iawn ar hawliau dynol, a chaiff hynny ei adlewyrchu mewn llawer o bethau y mae’r Cynulliad, yn gyntaf, a'r Senedd bellach, wedi’u gwneud dros gyfnod datganoli. Rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda'n cymunedau ethnig lleiafrifol yng Nghymru ar lawer iawn o faterion.
Ond fel y mae llawer o gyfranwyr i’r ddadl hon wedi’i ddweud, ac fel y mae ein hadroddiad yn nodi'n glir, ymddengys bod bwlch gwirioneddol mewn perthynas â'r gymuned Sipsiwn, Roma, Teithwyr. Maent yn wynebu gwahaniaethu, diffyg dealltwriaeth, rhagfarn ar lefel a chyda hanes sy'n dangos eu bod yn cael eu trin yn wahanol i eraill yng Nghymru. Gwyddom mai arwydd o gymdeithas wâr yw deall gwahaniaeth, darparu ar gyfer gwahaniaeth, cefnogi gwahaniaeth, fel y gall y rheini sydd â ffordd wahanol o fyw barhau i fyw yn y ffordd honno. I'r gymuned hon, ers amser maith, rydym wedi gweld y gallu i fyw yn y ffordd y maent yn dymuno yn unol â'u hanes a'u diwylliant yn cael ei erydu, ei danseilio a heb ei gefnogi. Rydym wedi gweld eu mannau aros traddodiadol yn diflannu o ganlyniad i drefoli, diwydiannu a datblygu masnachol cynyddol, heb i safleoedd digonol, diwylliannol briodol gael eu darparu yn eu lle—safleoedd parhaol neu safleoedd tramwy, na mannau aros mwy anffurfiol yn wir. Felly, fel y clywsom, ac fel y mae ein hadroddiad yn ei ddangos a'r ddadl heddiw wedi'i adlewyrchu, mae bwlch gwirioneddol mewn polisi ac ymarfer yng Nghymru. Mae’n staen ar ein gwlad, yn fy marn i.
Felly, credaf fod gwir angen inni roi camau ar waith yn unol â'n hadroddiad, ac fel y nododd y Gweinidog, mae angen yr ewyllys wleidyddol arnom ar lefel Llywodraeth Cymru, ar lefel awdurdodau lleol, ac ymhlith darparwyr gwasanaethau, fel y crybwyllodd Jenny Rathbone. A hoffwn ddiolch i Jenny, gan y gwn ei bod wedi hyrwyddo'r cymunedau hyn ers tro yn ei gwaith ac yn ei chyfnod fel cadeirydd grŵp hollbleidiol yn flaenorol. Felly, diolch yn fawr iawn am eich gwaith ar hyn, Jenny, a diolch yn fawr iawn i aelodau’r pwyllgor a’u cyfraniadau heddiw.
O ystyried y cefndir a ddisgrifiais a’r hyn y credaf fod pob un ohonom yn ei dderbyn, y bwlch rhwng y fframwaith sy’n bodoli—y fframwaith deddfwriaethol, rheoleiddiol a chanllawiau—a’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd ar lawr gwlad, credaf ei bod yn amlwg iawn fod angen inni weld camau gweithredu. Gwyddom fod llawer iawn o sinigiaeth yn deillio o brofiadau chwerw yn ein cymunedau yma yng Nghymru. Byddant yn edrych ar yr adroddiad hwn, byddant yn gwrando ar y ddadl hon, byddant yn clywed ymrwymiad Llywodraeth Cymru, a byddant yn dweud, 'Yr hyn sy'n mynd i gyfrif yw darparu a gweithredu'—yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad yng Nghymru, drwy ein hawdurdodau lleol, drwy ddarparwyr gwasanaethau eraill, drwy arweinyddiaeth ac ewyllys wleidyddol Llywodraeth Cymru. Dyna fydd y prawf. A allwn gyflawni o'r diwedd ar ran y cymunedau hyn? A fydd ymgysylltu a chydgynhyrchu priodol ledled Cymru o'r diwedd ar ddarparu safleoedd, safleoedd tramwy, lleiniau, adnewyddu ac atgyweirio safleoedd presennol? Nid oes ymgysylltu, ymgynghori a chydgynhyrchu digonol mewn perthynas â hynny yn digwydd ar hyn o bryd. Mae rhai arferion da, fel y dywedodd y Gweinidog, ond nid ydynt yn gyson; nid ydynt yn digwydd ledled Cymru. Mae cymaint y mae angen ei wneud ar hyn, a chredaf ein bod yn dibynnu nawr ar Lywodraeth Cymru i ddangos arweiniad clir, i sicrhau bod derbyn yr argymhellion yn arwain at arweinyddiaeth a darpariaeth effeithiol ar lawr gwlad. Dywedodd Jenny y dylai’r mater ddod yn ôl i’r Cyfarfod Llawn, ac rwy’n siŵr y gwnaiff, a hefyd, wrth gwrs, bydd yn dod yn ôl i’n pwyllgor, a byddwn yn cynnal briff gwylio cadarn iawn i sicrhau ein bod yn gweld y camau angenrheidiol hynny ar lawr gwlad.