9. Dadl Plaid Cymru: Tâl nyrsys

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 23 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:32, 23 Tachwedd 2022

Dwi'n gobeithio fy mod i’n gallu rhoi darlun eglur i chi y prynhawn yma ynghylch pam mae'n rhaid dod i setliad ar y cwestiwn o gyflogau a chefnogaeth i nyrsys. Ond gadewch imi ei gwneud hi’n fwy eglur fyth drwy eiriau a phrofiadau nyrsys a’u teuluoedd yn uniongyrchol. Y fam o Ynys Môn sydd a dwy ferch yn nyrs, a diolch amdanyn nhw, un yng Nghymru, a’r llall yn Awstralia, yn anffodus. Mae’r ferch yn Awstralia yn cael ei thalu ddwywaith gymaint â’r ferch sydd yma yng Nghymru. Mi fyddai hi’n licio dod adref i nyrsio, ond sut y gall hi gyda fel mae pethau’n sefyll? Mae traean o gyflog nyrs yma, meddai’r fam, yn gallu mynd ar ofal plant i un plentyn. Mae’n gofyn i’r Llywodraeth roi cyflog teg iddyn nhw.