9. Dadl Plaid Cymru: Tâl nyrsys

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 23 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:35, 23 Tachwedd 2022

Llywydd, mae'n air dwi wedi'i ddefnyddio droeon heddiw: argyfwng. Mae'r NHS mewn argyfwng yn barod. Mi oedd o cyn COVID—mae'n bwysig iawn wastad cofio hynny. Ond wrth gwrs mae'r pandemig wedi gwaethygu pethau. Ond mi all y sefyllfa fynd yn fwy argyfyngus byth. Rŵan, mae gennym ni nyrsys yn paratoi i adael y wardiau mewn anghydfod cyflog, ond, ar yr un pryd, mae mwy a mwy yn paratoi i adael y proffesiwn yn llwyr, ac mae lefel y cyflog yn rhan fawr o'r hyn sy'n gyrru hynny. Mae'n rhaid stopio hyn, ac, er nad yr unig ateb, mae sicrhau setliad cyflog haeddiannol yn gorfod bod yn rhan fawr o'r ateb. All y Llywodraeth ddim oedi mwy.