9. Dadl Plaid Cymru: Tâl nyrsys

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 23 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:25, 23 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Cyn symud ymlaen at y bleidlais, gofynnodd Natasha Asghar i mi yn gynharach i fyfyrio ar briodoldeb defnyddio'r term 'hysterig' mewn ymateb iddi gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ystod cwestiynau y prynhawn yma. Mae yna hanes hir iawn gan ddynion o ddefnyddio'r term 'hysteria' i fychanu menywod, yn enwedig menywod mewn bywyd cyhoeddus, ac rwy'n ymddiheuro i Natasha Asghar am beidio â sylwi arno pan gafodd ei ddweud. Mae 'hysterig' yn air amhriodol i ddisgrifio unrhyw gyfraniad gan unrhyw fenyw yn y Siambr hon. Efallai iddo gael ei ddefnyddio'n naïf gan y Dirprwy Weinidog ar y pryd, ond nid wyf yn disgwyl ei glywed eto. 

Nawr, awn ymlaen at y bleidlais, oni bai bod gennyf dri Aelod sy'n dymuno i'r gloch gael ei chanu.