Part of the debate – Senedd Cymru am 6:09 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwyf am ddweud ar y dechrau ein bod yn cydnabod yn llwyr pam fod cymaint o nyrsys wedi pleidleisio dros weithredu diwydiannol am y tro cyntaf yn hanes y Coleg Nyrsio Brenhinol. Credwn y dylai nyrsys, ynghyd â gweithwyr eraill sy'n gweithio'n galed yn y GIG a'r sector gyhoeddus, gael eu gwobrwyo'n deg am eu gwaith. Mae nyrsys, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, glanhawyr, porthorion, parafeddygon a llawer o broffesiynau eraill sy'n ffurfio staff y GIG ar yr un telerau ac amodau'r GIG â'u cydweithwyr ledled y DU—y contractau 'Agenda ar gyfer Newid'. Felly, dylai Aelodau fod yn ymwybodol fod canolbwyntio ar un grŵp o staff neu flaenoriaethu un grŵp dros y llall mewn materion cyflog yn arwain at ganlyniadau sylweddol. Mae holl staff ein GIG yn hanfodol bwysig, a hebddynt—pob un ohonynt—ni allem ddarparu gwasanaethau'r GIG.
Nawr, rydym yn deall pryderon a dicter ein gweithlu ynglŷn â sut mae eu safonau byw yn cael eu herydu, ond cyn imi droi at gyllid a chyllido, rwyf am nodi'r broses a ddilynais eleni wrth wneud y dyfarniad cyflog. Nawr, fel mewn blynyddoedd blaenorol, gwnaethom ofyn i'r cyrff adolygu cyflogau annibynnol ddarparu eu cyngor annibynnol, a phan wnaethom ofyn am y cyngor hwnnw, fe wnaethom ofyn yn benodol iddynt ystyried yr argyfwng costau byw. Mae'r corff adolygu cyflogau yn adolygu tystiolaeth gan bob parti, yn cynnwys y Llywodraeth, undebau llafur a chyflogwyr, cyn gwneud argymhellion annibynnol. Mae'n fecanwaith rydym ni ac undebau llafur wedi cytuno i'w ddilyn mewn trafodaethau cyflog i weithwyr y GIG ar gontractau 'Agenda ar gyfer Newid'. Felly, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn rhan o drafodaethau cytundebol 'Agenda ar gyfer Newid'. Felly, ar ôl ystyried yn ofalus, fe dderbyniais eu hargymhellion, a chytunais hefyd i dalu'r codiad o £1,400 ar ben y codiad cyflog byw gwirioneddol dros dro a gyhoeddwyd gennyf ym mis Mawrth 2022, sy'n golygu y bydd staff y GIG ar y cyflogau isaf yn gweld y cynnydd sylweddol o 10.8 y cant yn eu cyflogau.
Cyn cyhoeddi'r dyfarniad cyflog, cyfarfûm â chydweithwyr undebau llafur i drafod y pwysau ariannol presennol ac esboniais na allem gynyddu'r dyfarniad cyflog heb wneud penderfyniadau anodd iawn am doriadau i feysydd eraill yn y gyllideb iechyd, a fyddai, yn anochel, yn torri'r gwasanaethau sydd ar gael i'r cyhoedd ac yn gwneud clirio'r rhestrau aros yn anos byth. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y cyswllt rheolaidd sydd rhyngof ag undebau llafur, ac er nad yw'r rhain yn drafodaethau cyflog—rwyf newydd esbonio'r broses rydym yn ei defnyddio ar gyfer hynny—maent yn ymwneud â materion sy'n effeithio'n fawr ar weithlu'r GIG, fel llesiant a lles staff, ac rwy'n edrych ymlaen at fy nghyfarfod nesaf gydag undebau llafur pwyllgor busnes GIG Cymru, sy'n cynnwys y Coleg Nyrsio Brenhinol, ddydd Llun.
Lywydd, mae'n peri tristwch i mi, ynghanol argyfwng costau byw, nad ydym yn gallu rhoi dyfarniad cyflog sydd gyfuwch â chwyddiant i nyrsys, staff ein GIG a'n staff sector cyhoeddus ehangach, oherwydd bod ein setliad cyllid yn llawer is na'r hyn sydd ei angen i godi'r pwysau sylweddol y maent hwy a ninnau'n eu hwynebu. Yr wythnos diwethaf, cyflwynodd y Canghellor ddatganiad yr hydref, a chredwn fod hwn yn gyfle a gollwyd i ddarparu codiad cyflog i nyrsys, staff y GIG a gweithwyr sector cyhoeddus. Nawr, roedd rhywfaint o arian ychwanegol i Gymru—£1.2 biliwn dros y ddwy flynedd nesaf. Mae hynny ar gyfer popeth a wnawn yn y Llywodraeth—dwy flynedd—ond mae'n llawer llai na'r hyn sydd ei angen i lenwi'r tyllau yn ein cyllideb, heb sôn am ateb y galwadau cyflog gan staff ac undebau ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus. Ac roedd newyddion gwaeth ar gyfer eleni. Nid oes unrhyw arian ychwanegol ar gyfer eleni, er gwaethaf y pwysau chwyddiant enfawr, ac mae'r cynnig hwn gan Blaid Cymru yn galw arnom i ddefnyddio pob ysgogiad posibl i roi codiad cyflog i nyrsys. Rydym wedi clywed awgrymiadau y dylem ddefnyddio cronfeydd wrth gefn neu gronfeydd heb eu dyrannu. Wel, mae arnaf ofn nad yw'r ffigurau a glywsom yr wythnos hon, ynghylch arian heb ei ddyrannu, yn gyfredol. Rydych chi'n defnyddio ffigurau mis Mehefin. Roedd hynny cyn inni wybod am y bil ychwanegol o £207 miliwn ar gyfer ynni yn y GIG yn unig. Felly, mae angen pob ceiniog o'n cyllideb i leddfu pwysau chwyddiant ar wasanaethau cyhoeddus.