Part of the debate – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 29 Tachwedd 2022.
Y tro diwethaf i mi eistedd yn y gadair hon oedd bore Sadwrn, ac roeddech chi i gyd yn edrych, ar gyfartaledd, 30 mlynedd yn iau nag ydych chi nawr. Gallaf adrodd i ni gael cyfarfod llwyddiannus iawn o Senedd Ieuenctid Cymru yn y Siambr hon am y tro cyntaf ers eu hethol. Roedd yn gyfarfod llwyddiannus iawn, ac rwy'n eich annog i gyd i gwrdd â'r seneddwyr ieuenctid yn rheolaidd os gallwch chi. Yn sicr mae'n werth chweil i wneud hynny, ac roedd yn gyfarfod llwyddiannus iawn.