Part of the debate – Senedd Cymru am 6:37 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Mae'n broblem real iawn, Andrew, ac rwy'n ei weld yn fy etholaeth fy hun. Nid oes unrhyw gangen stryd fawr yng nghwm Rhymni uchaf nawr, ac rydym bellach wedi gorfod dibynnu ar ganghennau symudol. Felly, mae Banc Lloyd's yn dod â changen symudol i Rhymni. Rwy'n credu mai'r ateb o bosibl yw edrych ar fodel mwy tebyg i hyb ar gyfer canghennau sy'n gallu symud o gwmpas, ond mae hynny'n rhywbeth y mae gwir angen inni ei drafod gyda changhennau, oherwydd mae cymaint o bobl heb fynediad at gyfleusterau bancio; nid yw pawb ohonynt yn defnyddio bancio ar y rhyngrwyd, felly mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffordd o wneud hynny. Felly, mae'n ddrwg iawn gennyf glywed y cyhoeddiad hwnnw, ac mae angen inni geisio dod o hyd i atebion ar gyfer hynny.
Fodd bynnag, o'r £20.9 miliwn rydym yn ei fuddsoddi, mae hwnnw'n adeiladu ar lwyddiant Busnes Cymru a welsom hyd yma. Ers 2016, mae Busnes Cymru wedi cynghori dros 45,000 o entrepreneuriaid a busnesau unigol, gan helpu i sefydlu bron i 800 o fentrau newydd a chefnogi busnesau i greu 32,500 o swyddi newydd. O ran gwerth am arian, rydym yn gwybod y gall pob £1 a fuddsoddwyd ym Musnes Cymru gael ei chysylltu ag isafswm o £10 a hyd at £18 o gynnydd gwerth ychwanegol gros net y flwyddyn. Ac mae gan y busnesau sydd wedi cael cefnogaeth gyfradd oroesi o 77 y cant dros bedair blynedd, o'i gymharu â'r cyfartaledd o 33 y cant i rai nad ydynt yn cael cymorth.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi busnesau bach gyda'i chynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach. Ac er ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau bach, mae'n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn cadw ei hymrwymiad ac yn gweithio i ychwanegu gwerth i ymyriadau Llywodraeth Cymru ac i ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi i gefnogi busnesau bach yn well yng Nghymru. Drwy'r genhadaeth economaidd, rydym yn cymryd camau beiddgar i gefnogi economïau lleol cryfach a'r gwaith allweddol o drechu tlodi. Ac rwy'n clywed yr hyn y mae Heledd Fychan wedi'i ddweud am lifogydd ac anallu busnesau lleol i gael yswiriant ar gyfer hynny, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn siarad â fy nghyd-Weinidogion, y Gweinidog Newid Hinsawdd a Gweinidog yr Economi yn ei gylch, er na allaf roi unrhyw sicrwydd ynghylch hynny heddiw wrth gwrs.
Ond rydym hefyd yn defnyddio ein hysgogiadau caffael i alluogi busnesau bach i elwa ar gyfleoedd caffael y sector cyhoeddus. Caiff gwerth biliynau o bunnoedd o gontractau eu hysbysebu drwy GwerthwchiGymru a thrwy gydweithredu â phrynwyr y sector cyhoeddus. Mae Busnes Cymru yn annog ein busnesau bach i ddatblygu eu galluoedd tendro er mwyn ennill mwy o fusnes. Drwy ymrwymiad ehangach i wella cadwyni cyflenwi, rydym yn cynorthwyo busnesau i gefnogi codau ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, ac rydym wedi ymrwymo i fanteision ysgogiadau caffael ac yn rhoi partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol drwy Fil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).
Felly, mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn fenter wych i daflu goleuni ar bwysigrwydd cefnogi'r sectorau manwerthu a lletygarwch, sydd, wrth gwrs, yn rhannau allweddol o'r economi sylfaenol. Felly, rwy'n cefnogi'r cynnig sydd wedi'i wneud, a byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn i gefnogi microfusnesau, a busnesau bach a chanolig yma yng Nghymru, a hoffwn annog pawb ledled Cymru i siopa'n lleol a chefnogi ein busnesau bach annibynnol, nid yn unig ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach ond drwy gydol y flwyddyn fel y gallwn gadw a thyfu cyfoeth lleol mewn cymunedau ledled Cymru. Diolch yn fawr.