1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Rhagfyr 2022.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ba gymorth sydd ar gael i fusnesau yn sgil cau pont y Borth? OQ58854
Prynhawn da, wrth gwrs. Ar ei ymweliad â Phorthaethwy ddydd Mercher diwethaf, fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gyhoeddi pecyn cymorth i leddfu'r pwysau trafnidiaeth i bobl sy'n teithio i Ynys Môn ac oddi yno. Roedd hyn yn cynnwys dulliau datrys ar gyfer llif traffig, a mynediad i lwybrau teithio llesol.
Diolch am yr ymateb yna. Does dim amheuaeth bod cau y bont wedi cael effaith negyddol ar fusnes. Mae'r sefyllfa economaidd gyffredinol hefyd yn effeithio ar faint mae pobl yn ei wario, ond, o siarad efo busnes ar ôl busnes, pan fyddaf i'n clywed am gwymp o 35-40 y cant mewn masnach fel ryw ffigwr sydd i'w glywed yn gyffredin—rhai yn gweld cwymp mwy—mae'n amlwg bod angen ymateb i hyn.
Dwi'n gwerthfawrogi'r hyn gafodd ei gyhoeddi'r wythnos ddiwethaf—parcio am ddim, er enghraifft—ond mae yna amheuaeth go iawn pa impact gaiff hynny mewn gwirionedd, ac mae angen ryw dod o hyd i ryw ffordd o gefnogi busnesau yn uniongyrchol. Mae yna sawl opsiwn, am wn i. Un awgrym ydy y gallai busnesau gael oedi talu bounce-back loans yn ôl i fanc Cymru er enghraifft—mae'n bosib bod hynny'n rywbeth all gael ei ystyried. Ond, yn sicr, mae angen ryw fodel o gymorth uniongyrchol. Rŵan, mae'r cyngor sir wrthi yn ystyried canlyniadau holiadur ar yr effaith ar fusnes, ond a wnaiff y Prif Weinidog roi ymrwymiad i droi y data yn weithredu, ac i wneud hynny mor fuan â phosib, achos mae yna rai yn ofni na fydd rai busnesau yn gallu goroesi oni bai bod hynny yn dod?
Wel, diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn ychwanegol. Wrth gwrs, rŷn ni yn meddwl am fusnesau lleol sydd wedi gweld yr effaith ar ôl i'r bont gau. A phan oedd Lee Waters lan yn y gogledd, roedd e'n gallu cyhoeddi nifer o bethau rŷn ni'n gallu eu gwneud nawr, ond rŷn ni'n dal i gydweithio gyda'r cynghorau lleol, ac mae data yn cael ei gasglu. Bydd dadansoddiad o'r data yn mynd ymlaen gyda'n swyddogion ni, a gyda phobl sy'n gweithio i Ynys Môn ac i Wynedd hefyd, i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i helpu busnesau yn yr ardal sydd wedi gweld cwymp mewn pobl sy'n gallu dod trwy'r drws, a'r effaith mae hwnna'n ei chael ar bopeth maen nhw'n gallu ei wneud.
A gaf i ymuno â'r Aelod dros Ynys Môn i dynnu sylw at rai o'r materion y mae busnesau ym Mhorthaethwy yn eu gweld ar hyn o bryd yn sgil cau Pont y Borth? Rwyf i hefyd yn cytuno ag ef ar rai o'r camau cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd ar hyn o bryd i gynorthwyo'r busnesau hynny yno. Llwyddais i ymuno â chyfarfod ar fusnesau ym Mhorthaethwy gyda'r Aelod Seneddol dros Ynys Môn, Virginia Crosbie, yn ogystal â fy nghyd-Aelod Mark Isherwood. Ac fe wnaethon nhw dynnu ein sylw at rai o'r atebion ymarferol yr hoffen nhw eu gweld ar ben y cyhoeddiadau sydd eisoes wedi eu gwneud. Ac mae un o'r rheini sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru yn sicr yn ymwneud â'r arwyddion ar hyd yr A55 i Borthaethwy sy'n tynnu sylw pobl at y ffaith, er efallai fod y bont ei hun ar gau, bod Porthaethwy ar agor i fusnes yn ôl yr arfer. Felly, Prif Weinidog, yr hyn yr hoffwn i ei glywed gennych chi yw ymrwymiad i weithio gydag asiantaeth cefnffyrdd y gogledd i sicrhau bod yr arwyddion yn eglur, ac efallai hefyd edrych ar weithio gyda Croeso Cymru i sicrhau, mewn gwirionedd, bod Ynys Môn yn cael ei amlygu o hyd fel lle gwych i ymweld ag ef dros y misoedd nesaf, fel bod busnesau yno, boed yn fusnesau ar y stryd fawr neu'n fusnesau twristiaeth, yn gallu croesawu ymwelwyr yn y misoedd nesaf.
Wel, Llywydd, diolch i'r Aelod am yr awgrymiadau ymarferol pellach hynny. Fel y dywedais i yn fy ateb i'r Aelod lleol dros Ynys Môn, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn agored i drafodaethau ar lefel swyddogol, a gyda phobl ar lawr gwlad, i wneud yn siŵr bod gennym ni'r data gorau sydd ar gael ac y gallwn weld a ellid cymryd camau pellach. Rwy'n gwybod bod camau eisoes wedi cael eu cymryd i wneud yn siŵr bod arwyddion ychwanegol, yn ei gwneud yn eglur i bobl bod busnesau ym Mhorthaethwy yn dal i fod ar agor. A bydd rhai o'r camau y cytunwyd arnyn nhw yr wythnos diwethaf yn ei gwneud hi'n haws i bobl allu ymweld â'r dref, a gyda thaliadau parcio mewn meysydd parcio wedi eu diddymu o'r cyntaf o'r mis, i allu aros yno a gwneud eu siopa. Ond os oes mwy y gellir ei wneud i wneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol bod y dref ar agor i fusnesau, ac yn wir, yn y tymor hwy, bod y rhan honno o Gymru yn parhau i fod yn rhywle sy'n sicr yn werth i bobl ymweld ag ef, yna wrth gwrs byddem ni'n awyddus i fod yn rhan o'r ymdrech honno.