Cymru yn Genedl Noddfa

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 6 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 1:35, 6 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Dywedodd eich Llywodraeth, mewn ymateb i ymchwiliad pwyllgor y bumed Senedd i'r rhyddid i symud ar ôl Brexit

'os nad yw polisi mewnfudo Llywodraeth y DU yn y dyfodol yn mynd i’r afael ag anghenion economaidd, demograffig a chymdeithasol Cymru, yna byddwn yn ystyried opsiynau ar gyfer polisi mewnfudo gwahanol i ardaloedd penodol ar ôl Brexit'.

Fel y gwyddoch chi, Prif Weinidog, nid yw hynny o reidrwydd yn gofyn am ddatganoli pwerau dros fewnfudo. Dim ond yn ddiweddar, clywsom am gynlluniau Rishi Sunak i gyfyngu ar fyfyrwyr rhyngwladol. Mae'r 21,000 o fyfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru yn cyfrannu cymaint, mewn cynifer o wahanol ffyrdd, at ein gwlad. Mae Prifysgol Cymru'n dweud wrthyf i y cynhyrchwyd un swydd ar gyfer pob dau fyfyriwr rhyngwladol ym mhrifysgolion Cymru. Pa gynnydd, felly, ydych chi wedi ei wneud, Prif Weinidog, ar bolisi mewnfudo gwahanol i Gymru, nawr bod polisïau mewnfudo ofnadwy Llywodraeth San Steffan ar ôl Brexit mor eglur i bob un ohonom ni? Diolch yn fawr.